Ymateb y gwleidyddion i'r etholiad cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
Enillwyr
Disgrifiad o’r llun,

Anna McMorrin, Ben Lake, Tonia Antoniazzi a Chris Ruane - rhai o'r gwleidyddion sydd wedi eu hethol yng Nghymru

Mae Carwyn Jones wedi dweud fod "brwdfrydedd pobl ifanc" wedi chwarae rhan fawr ym mherfformiad y blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Roedd hi'n noson dda i Lafur yng Nghymru, wrth iddyn nhw gipio tair sedd oddi ar y Ceidwadwyr a rhagor yn Lloegr.

Wnaeth y Ceidwadwyr ddim llwyddo i gipio unrhyw seddi ychwanegol yng Nghymru, ac mae'r darlun ar draws Prydain yn golygu mai senedd grog fydd y senedd nesaf am fod yr un blaid wleidyddol wedi cael mwyafrif.

Dywedodd y prif weinidog Theresa May fod hi'n bwysig cael "sefydlogrwydd" yn y wlad tra bod Jeremy Corbyn, yr arweinydd Llafur wedi dweud ei fod yn "barod i wasanaethu".

Denu'r ifanc

Yn ôl Carwyn Jones fe lwyddodd Mr Corbyn i ennyn "brwdfrydedd pobl ifanc".

"Roedd pobl yn dweud wrthai eu bod nhw'n gwybod am bobl ifanc oedd yn gofyn sut oedden nhw'n gallu mynd ati i bleidleisio. Fe wnaeth Jeremy ymgyrchu yn ddiflino o gwmpas Prydain gan wrando ar bobl," meddai.

"Mae hefyd wedi dweud bod yr hyn sydd wedi digwydd nos Iau yn golygu diwedd ar y syniad o gael Brexit, caled a bod angen Brexit sydd yn synhwyrol i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Corbyn wedi galw ar y Prif Weinidog, Theresa May i ymddiswyddo

"Yn amlwg fe fydd angen gweithio yn agosach gyda'r llywodraeth er mwyn datrys yr heriau yn y gwledydd datganoledig yn sgil Brexit."

Ychwanegodd AS Pontypridd, Owen Smith - wnaeth herio Mr Corbyn am arweinyddiaeth y blaid llynedd - fod Llafur wedi "perfformio'n wych" er na wnaethon nhw ennill yr etholiad.

"Roeddwn i'n amlwg yn anghywir yn teimlo na fyddai Jeremy'n gallu gwneud hyn yn dda, a dwi'n meddwl ei fod wedi fy mhrofi i a llawer o bobl eraill yn anghywir," meddai.

'Pryderon eraill'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi cydnabod bod yna ddiffygion wedi bod yn ymgyrch ei blaid, ond mae'n gwadu nad oedd o wedi ymrwymo i'r ymgyrch.

Cafodd ei feirniadu am beidio cymryd rhan mewn dadl deledu, dolen allanol am ei fod i ffwrdd ar ei wyliau.

"Roeddwn ni yn teithio Cymru gyfan yn cefnogi'r ymgeiswyr. Roedd yna wendidau yn yr ymgyrch ac fe fydd y blaid yn edrych ar hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfaddefodd Andrew RT Davies fod "gwendidau" yn ymgyrch y Ceidwadwyr

Mynnodd yr AS Ceidwadol, Stephen Crabb fod y cymhelliad i gynnal etholiad cynnar cyn trafodaeth Brexit yn gywir.

"Yn amlwg mae rhywbeth wedi mynd o'i le achos mae'r wlad wedi bod eisiau trafod materion eraill yn yr etholiad. Roedden nhw eisiau codi pryderon eraill," meddai.

Ond mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Ynys Môn, Tomos Dafydd, wedi beirniadu penderfyniad May i alw etholiad a hefyd wedi beirniadu'r blaid yng Nghymru.

Dywedodd ar rhaglen Taro'r Post: "Mae 'na yn bendant gwestiynau i ofyn ynglŷn ag arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru a'r blaid yn ganolog yng Nghymru.

"Roedd hi'n ymgyrch gwbl ddifflach, roedd yna ormod o bwyslais ar y cyd-destun Prydeinig - roedd yna ddiffyg cefnogaeth i'r ymgyrch ar lawr gwlad, ces i nesa' peth i ddim o gefnogaeth y blaid yn ganolog.

"Ac yn sicr mae yna gwestiynau mawr i'r blaid yng Nghymru eu hateb, yn bersonol mi fyddwn i wedi gweld mwy o bwyslais yng Nghymru ar yr agwedd Gymreig."

'Neb wedi darogan'

Un sedd ychwanegol mae Plaid Cymru wedi cipio, sef Ceredigion, yn dilyn brwydr agos rhyngddyn nhw a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond dim ond o drwch blewyn y llwyddodd y blaid i ddal eu gafael ar Arfon, ac fe wnaethon nhw golli tir yn Ynys Môn a'r Rhondda, dwy o'u prif seddi targed.

Mae arweinydd y blaid, Leanne Wood wedi cydnabod y byddan nhw yn adlewyrchu ar y seddi lle'r oedd y canlyniadau yn siomedig.

"Roedd yna duedd tuag at y Ceidwadwyr mewn rhai llefydd a Llafur mewn llefydd eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Plaid Cymru i gipio Ceredigion oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol

"Roedd hi'n noson ryfedd, cafodd y rheolau i gyd eu torri. Dw i ddim yn meddwl fod unrhyw un wedi darogan canlyniad neithiwr."

Ond mae cyn AS ac arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin wedi dweud eu bod nhw wedi defnyddio "tactegau diflas" ac wedi targedu'r llefydd anghywir.

"Dwi ddim yn mynd i wneud sylw ar a ddylai Leanne Wood aros fel arweinydd, roedd hi'n etholiad od mewn sawl ffordd," meddai Elfyn Llwyd.

Ychwanegodd fodd bynnag fod "y gamp yng Ngheredigion yn un rhagorol", gan ddweud fod gan yr ymgeisydd buddugol yno, Ben Lake, "ddyfodol disglair".

'Angen amser i feddwl'

Does gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddim un Aelod Seneddol yng Nghymru bellach, yn sgil canlyniad Ceredigion.

Dywedodd Carole O'Toole, cynrychiolydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar y Pwyllgor Cenedlaethol Gweithredol fod hyn yn "ddiwrnod trist i ryddfrydiaeth yng Nghymru".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli yr unig AS oedd ganddyn nhw yng Nghymru, Mark Williams

"Mae Cymru wedi colli llais rhyddfrydol yn San Steffan, llais oedd yn ymladd ar gyfer gwlad fwy agored a goddefgar.

"Mae Mark Williams wedi gweithio yn ddiflino ar gyfer cymunedau Ceredigion a Chymru ers 2005."

Ychwanegodd ei fod yn ganlyniad anodd a bod angen i'r blaid gael amser i ystyried sut i "symud ymlaen".

'Bygwth Brexit'

Dywedodd arweinydd UKIP yn y Cynulliad y bydd rôl y blaid "yn fwy allweddol yn y blynyddoedd i ddod achos bod rhaid sicrhau bod Brexit yn digwydd".

"Mae Theresa May wedi gwneud llanast llwyr sy'n bygwth Brexit, rhywbeth sy'n gywilyddus," meddai Neil Hamilton AC.

Gwadodd nad oedd gan y blaid ddylanwad bellach, gan ddweud bod eu dylanwad wedi achosi Brexit, er mai ond un AS oedd ganddyn nhw ar y pryd.

Ychwanegodd ei fod am weld Nigel Farage yn arwain y blaid eto yn dilyn ymddiswyddiad Paul Nuttall fore Gwener.