Cyfoeth Naturiol Cymru 'heb gyflawni'

  • Cyhoeddwyd
Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am adnoddau naturiol y wlad, ac am gynghori'r llywodraeth ar faterion amgylcheddol

Union flwyddyn ers i Gyfoeth Naturiol Cymru ddechrau ar ei waith, mae'r corff wedi cael ei feirniadu'n llym gan y naturiaethwr a'r darlledwr Iolo Williams.

Cafodd CNC ei sefydlu drwy uno tri chorff - Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.

Ond yn ôl Mr Williams does dim pwyslais ar gadwraeth yng ngwaith y corff newydd, a dywedodd ei fod "am y tro cyntaf yn poeni am gefn gwlad Cymru".

Gwrthod y sylwadau wnaeth prif weithredwr CNC, Emyr Roberts, a Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Llywodraeth Cymru, Alun Davies.

'O ddrwg i waeth'

"Rydan ni'n son am roi tri chorff at ei gilydd oedd yn cwympo allan yn rheolaidd pan oedden nhw ar wahân," meddai Iolo Williams.

"Doedd hwnnw ddim y dechrau gorau ac ers hynny mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth.

"Y broblem yw bod o'n gorff sydd reit o dan adain Cynulliad Cymru felly dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu datblygiadau y dylen nhw fod yn eu gwrthwynebu.

"Mae 'na achosion di-ri o lygredd yn ein hafonydd ni a does neb wedi edrych i mewn iddyn nhw.

"Y broblem fwya' yw cadwraeth. Dyw'r gair ddim yn ymddangos yn unlle ar wefan CNC, ac yn amlwg dydyn nhw ddim yn gweld cadwraeth fel rhywbeth sy'n flaenoriaeth iddyn nhw."

Trac rasio

Aeth ymlaen i ddweud nad yw'r briodas wedi gweithio ac "nad yw CNC wedi cyflawni'n agos at yr hyn ddylai fod wedi'i gyflawni" yn ei flwyddyn gyntaf.

Disgrifiad,

Dylan Jones fu'n holi mwy ar ei raglen fore Mawrth

Rhoddodd esiamplau hefyd o achosion lle nad yw CNC wedi gwrthwynebu datblygiadau, gan nodi trac rasio Cylchffordd Cymru fel un enghraifft.

Ym mis Mawrth y llynedd fe ddywedodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru bod ganddyn nhw bryderon am y datblygiad o safbwynt amgylcheddol, ond ar ôl sefydlu'r corff newydd dywedodd CNC eu bod yn deall y pryderon ond bod modd delio â nhw ac y dylai'r cynllun fynd yn ei flaen.

Yr wythnos ddiwethaf fe welodd rhaglen The Wales Report ar BBC 1 e-byst mewnol gan staff CNC sy'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar y corff i beidio gwrthwynebu datblygiadau.

Gwrthod hynny wnaeth y Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies.

'Rhan bwysig o'n gwaith'

Ond gwrthod y feirniadaeth wnaeth prif weithredwr CNC, Emyr Roberts, gan ddweud bod cadwraeth a gwarchod cynefinoedd yn bwysig i'r corff newydd.

Dywedodd: "Mae gwaith cadwraethol yn rhan bwysig iawn o be' yr ydym ni'n wneud fel Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Fedra i ddim gwarantu'r cyllid ar gyfer y dyfodol, ond ry'n ni'n gobeithio bod yr arian yr ydan ni'n rhoi tuag at gadwraeth i sefydliadau allanol yn cael ei gadw ar y lefel bresennol i'r dyfodol."

Wrth ymateb i rai o bryderon penodol Iolo Williams, dywedodd llefarydd ar ran CNC eu bod yn ymchwilio i bob adroddiad o lygredd mewn afonydd sy'n cael eu hadrodd iddyn nhw.

Pe bai tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn cael ei chyflwyno, yna fe fydden nhw'n ymchwilio'n drylwyr i hynny, meddai.

Roedden nhw hefyd yn pwysleisio mai'r un bobl ar y cyfan sy'n cael eu cyflogi gan CNC ag oedd yn gweithio i'r tri chorff blaenorol ac y gellid dadlau bod gan y corff newydd mwy o sgiliau ym maes cadwraeth nawr wrth ddod â'r cyrff blaenorol at ei gilydd.

'Blwyddyn brysur'

Mi fu'n flwyddyn eithriadol o brysur i CNC gyda'r stormydd a llifogydd yn achosi trafferthion cyson i'r corff newydd.

Ar ddiwedd blwyddyn o'r fath mae'n debyg y bydd mwy o bwyso a mesur beth yn union yw cyfraniad y corff i gefn gwlad Cymru dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Un arall i amddiffyn gwaith CNC dros y flwyddyn ddiwethaf ydi Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Llywodraeth Cymru, Alun Davies. Wrth siarad ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, fe ddywedodd y gweinidog:

''Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae CNC wedi delio hefo rhai o'r stormydd mwyaf da ni wedi ei weld yng Nghymru ers degawdau...ac maen nhw yn delio hefo'r 'tree disease' mwyaf ers degawdau, felly pan 'da chi'n edrych ar beth mae CNC wedi bod yn ei wneud a materion lle maen nhw wedi bod yn gweithredu, maen nhw wedi bod yn llwyddiant.''

Ychwanegodd y gweinidog: ''Falle'r peth mwyaf yw does dim stori wedi bod yn y wasg neu ar y BBC dros y flwyddyn ddiwethaf am fethiannau CNC. Does dim stori wedi bod oherwydd dyw'r methiannau ddim yn wir.''

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol