Prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Emyr Roberts

Mae prif weithredwr corff amgylcheddol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ym mis Hydref eleni.

Cafodd Dr Emyr Roberts ei benodi i'r swydd yn 2013, pan unodd tri chorff at ei gilydd i greu Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ond mae'r sefydliad wedi wynebu toriadau ariannol a lleihad yn nifer eu staff dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â phenawdau heriol.

Dywedodd Dr Roberts ei fod wedi bod yn "fraint" arwain CNC, ond ei bod hi'n bryd "pasio'r baton ymlaen" i rywun arall.

Beirniadaeth

Cyfoeth Naturiol Cymru yw corff mwyaf Llywodraeth Cymru, ac mae'n cyflogi 1,900 o staff ar draws Cymru gyda chyllideb o £180m.

Pan ddechreuodd yn y rôl, dywedodd Dr Roberts fod CNC yn "sefydliad unigryw" gyda gorchwyl ehangach na'r Asiantaeth Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru - y tri chorff gafodd eu disodli.

Ychwanegodd y byddai'n rheoli'r amgylchedd mewn ffordd fwy cysylltiedig, ac y byddai CNC yn gweithio'n agos gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru ond yn cadw'u pellter.

Ond o fewn blwyddyn roedd y naturiaethwr Iolo Williams wedi ei alw'n "drychineb i gadwraeth", ac fe gafodd annibyniaeth y corff ei gwestiynu yn dilyn eu cefnogaeth i drac rasio yng Nglyn Ebwy.

Daeth hi i'r amlwg fod uno sefydliadau gwahanol yn profi'n her, gydag arolygon staff yn cael eu gollwng a honiadau o broblemau morâl.

Yn 2016 fe wnaeth holiadur awgrymu mai dim ond 10% o weithwyr oedd yn teimlo fod y corff wedi'i reoli'n dda.

Yn fwy diweddar fe wnaeth ffrae dros gytundeb coed gwerth £39m chafodd ddim ei roi i dendr ddenu beirniadaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac ymchwiliad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Fe wnaeth y diwydiant coed gwyno am "bryder mawr dros golli arbenigedd coedwigaeth" o fewn y corff, tra bod grwpiau pysgota ac afonydd hefyd wedi beirniadu gwaith CNC.

Cafodd yr honiadau eu gwadu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

'Ymroddiad'

Yn adroddiad blynyddol CNC yn 2015/16, dywedodd Dr Emyr Roberts fod y broses o integreiddio gwaith y tri chorff blaenorol yn "siwrne" parhaus, ond eu bod wedi cyflawni gwaith "credadwy" hyd yn hyn.

Roedd y llwyddiannau yn cynnwys dyfroedd ymdrochi glanach, gwaith i amddiffyn mawndiroedd, a lleihau lledaeniad afiechyd coed.

Mae mwy o ddata yn cael ei gyhoeddi ar-lein gan gynnwys gwybodaeth am lefelau afonydd, meddai, ac roedd gwasanaeth cwsmeriaid yn parhau i wella.

Cyn cael ei benodi fel prif weithredwr CNC, bu Dr Roberts yn was sifil yn Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru gynt, yn dilyn gyrfa gydag Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Wrth gyhoeddi ei ymadawiad, dywedodd Dr Roberts: "Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol arwain CNC dros y bum mlynedd gyntaf.

"Mae adnoddau naturiol iach a gwydn yn hanfodol i les Cymru yn y dyfodol, ac rydyn ni'n gwneud gwahaniaeth.

"Rydyn ni wedi cyflawni lot wrth sefydlu corff newydd sydd yn gallu trawsnewid y ffordd rydyn ni'n gwarchod amgylchedd Cymru, a dwi'n teimlo fod nawr yn adeg dda i basio'r baton ymlaen i rywun arall i arwain rhan nesaf y trawsnewidiad.

"Mae fy niolch yn fawr i'r bobl wych a phawb sy'n rhan o CNC, ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu gwaith pwysig yn y dyfodol."

'Cyfnod o newid'

Dywedodd Diane McCrea, cadeirydd bwrdd CNC y byddai'r gwaith o benodi ei olynydd yn dechrau yn syth, gan ddiolch i Dr Roberts am ei "ymroddiad" i'r swydd.

"Yn y cyfamser, mae ein gwaith yn parhau fel yr arfer i edrych ar ôl yr amgylchedd gwych rydyn ni i gyd yn ei garu, fel bod bywyd gwyllt a phobl Cymru yn gallu ffynnu," meddai.

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths fod Dr Roberts wedi "gweithio'n galed" yn ystod "cyfnod o newid" i'r corff.

"Dyw dod â thri sefydliad at ei gilydd a chreu corff rheoleiddio a gweithredu ddim wedi bod yn dasg hawdd," meddai.