Lansio gweledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Carwyn Jones oedd yn trafod y cynllun ar faes yr Eisteddfod

Mae Prif Weinidog Cymru a Gweinidog y Gymraeg wedi cyhoeddi manylion ymgyrch Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar Faes y Brifwyl yn y Fenni.

Mae'r cynllun yn amlinellu uchelgais i greu Cymru sy'n ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ac i gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu'r iaith ac yn gallu ei defnyddio gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

Mae'r llywodraeth yn derbyn fod y cynllun yn un uchelgeisiol, ac yn cydnabod bod angen bod yn greadigol os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

Maen nhw hefyd yn cydnabod bod angen iddyn nhw arwain y drafodaeth, ond hefyd gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau a chyrff eraill er mwyn rhoi lle canolog i'r iaith mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan ddiwedd mis Hydref ac mae'n nodi chwe maes allweddol i'w trafod:

  • Cynllunio
  • Gwneud yr iaith yn rhan normal o fywyd bob dydd
  • Addysg
  • Pobl
  • Cefnogaeth
  • Hawliau

Yn y cyfamser, mae Siân Gwenllian AC Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio fod y Llywodraeth ar y droed ôl yn barod.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rydym yn genedl sy'n ymfalchïo yn ein dwyieithrwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod o'r dechrau, cyfraniad sylweddol ein hiaith at ein gorffennol, ein hanes a'n diwylliant byw, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein hadnodd pwysicaf, sef ein pobl - y siaradwyr Cymraeg ar draws y wlad, boed yn siaradwyr rhugl, yn siaradwyr llai hyderus neu'n ddysgwyr. Mae angen i ni barhau i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr. Mae ein hiaith yn dylanwadu ar gerddoriaeth, storïau, traddodiadau a bywyd bob dydd.

"Mae cymunedau bywiog Cymraeg eu hiaith yn cyfrannu at amrywiaeth y wlad, gan wneud Cymru'n wlad heb ei hail i fyw ynddi neu ymweld â hi. Fodd bynnag, ni all y Llywodraeth gyflawni hyn heb help. Felly, rwy'n awyddus i Gymru gyfan fod yn rhan o'r drafodaeth hon.

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: "Mae'n bleser cael arwain y drafodaeth genedlaethol hon ynghylch sut allwn gryfhau'r Gymraeg mewn cymunedau ar draws y wlad, a sicrhau bod Cymru'n wlad ddwyieithog go iawn ac nid ar bapur neu mewn areithiau yn unig.

"Rydym am i bawb gael cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch, a bod hyn yn cael ei weld fel rhan annatod o'r ddarpariaeth gyffredinol yn hytrach na rhywbeth ar wahân.

'Angen mwy na stỳnt arwynebol'

Nododd Sian Gwenllian AC, fod y Llywodraeth wedi ceisio cynnal "Sgwrs Genedlaethol' yn flaenorol, ynghyd a 'Chynhadledd Fawr", a bod angen llawer mwy na "stỳnt arwynebol" os am fynd i'r afael a'r cwymp yn y nifer o siaradwyr a gafodd ei adlewyrchu yn y Cyfrifiad diwethaf.

"Mae'n hi'n siomedig iawn deall nad yw'r gwaith o greu cynllun gweithredu yn mapio allan y camau sydd angen eu cymryd i wireddu'r nod wedi cychwyn ag bod oedi pellach i ddigwydd er mwyn cael 'sgwrs' arall ynglŷn â'r Gymraeg.

"Gweithredu yn hytrach na sgwrsio sydd ei angen gan Lywodraeth Lafur Cymru os yw'r Gymraeg am barhau a chryfhau."