'Diva' Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores opera Sioned Gwen Davies yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017 yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Does yna yr un Cymro neu Gymraes wedi ennill y gystadleuaeth hon o'r blaen, a gyda 20 o gantorion o draws y byd wedi dod i Neuadd Dewi Sant yn y brifddinas i gystadlu, mae Sioned, sy'n wreiddiol o Fae Colwyn, yn gobeithio cipio'r tlws ddydd Sul, 18 Mehefin.

Ar ôl ennill cystadleuaeth i gantorion Cymreig fis Mai y llynedd, sydd wedi ei galluogi i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd y BBC, mae'r gystadleuaeth hon yn benllanw ar flwyddyn o waith paratoi, meddai Sioned wrth Cymru Fyw cyn cystadlu:

"Dwi wedi paratoi gymaint, dwi jyst isho ei wneud o rŵan. Mae pawb sydd yn y gystadleuaeth yn gallu canu, dyna pam 'dan ni yno, ond ar ddiwedd y dydd pwy sy'n perfformio y gorau fedran nhw ar y diwrnod, dyna sy'n bwysig.

"Mae'r gystadleuaeth hon yn andros o bwysig. Wnes i fyth meddwl y byswn i yn cystadlu yn Canwr y Byd.

"Mae'n rhywbeth anhygoel mewn un ffordd ond erbyn rŵan dim cystadleuaeth ydy hi i fi, ond swydd. Mae'n rhaid i fi fynd yno a gwneud be' dwi'n gwbod mod i'n gallu neud a'i gweld hi fel cyngerdd, ma' rhywun 'di paratoi cymaint amdano.

"Mae 'na ychydig o nerfusrwydd achos mae 'na banel yn mynd i fod yn fy ngwylio i. Mae'n rhaid i fi fynd yno a gwneud fy ngorau ar y diwrnod."

Os oes 'na flwyddyn o waith paratoi i ymarfer a dewis darnau addas i'r gystadleuaeth, mae'r gwisgoedd hefyd angen cael eu cynllunio'n fanwl, am fod yr edrychiad yr un mor bwysig â'r perfformiad.

"Mae sut ti'n gwisgo ac yn dal dy hun ar lwyfan yn bwysig, mae'r beirniaid yn edrych ar yr holl package, nid dim ond y llais," meddai Sioned. "Mae 'na edrych ymlaen i weld y ffrogiau yn y gystadleuaeth a dwi'n aml yn gwisgo ffrogiau sy'n wahanol.

"Gan ein bod ni'n gorfod ffeindio ein ffrogiau ein hunain, dwi'n trio gwisgo rhai fforddiadwy a dwi'n siopa ym mhob man - ges i un o ffrogiau'r gystadleuaeth mewn boutique yn Neganwy ac un arall yn Llandudno."

Mae Sioned yn teithio'r wlad fel cantores opera broffesiynol, ac er ei bod bellach wedi ymgartrefu yn Glasgow, mae ei gyrfa yn mynd â hi oddi wrth ei theulu a ffrindiau am gyfnodau hir, sy'n gallu bod yn anodd, meddai.

Disgrifiad,

Sioned Gwen Davies yn trafod sut mae'n paratoi ar gyfer Canwr y Byd

"Un peth dydyn nhw ddim yn eich dysgu chi yn y brifysgol ydy fyddwch chi byth adra' am gyfnod hir.

"Dwi yn mwynhau, ac mae rhywun yn cael gweld lot o'r byd trwy'r gwaith ond mae'n rhaid dysgu mwynhau eich hunain, ac mae'n bwysig i edrych ar ôl eich hunain.

"Pan dwi'n ymweld â rhywle newydd, mae'n bwysig i fi fynd allan i weld y ddinas, mae o'n anodd a dydy o ddim yn glamorous!"

Cystadlu

"O'n i'n canu o hyd pan o'n i'n blentyn. Ro'n i'n canu'n y capel pan o'n i'n dair oed ac yn mynd rownd Eisteddfodau lleol, dyna sut o'n i'n ennill pres poced.

"Ond newyddiadurwraig o'n i'n meddwl y byswn i achos o'n i'n mwynhau 'sgrifennu creadigol, roedd y canu yn fwy o ddiddordeb na dim arall.

"Ro'n i'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn yn ddi-ffael, a finna'n cael dim byd. Dim ond unwaith es i drwyddo i'r llwyfan yn y Genedlaethol, a ches i ddim llwyfan yn yr Urdd erioed!

Disgrifiad,

"Mae angen bod yn gryf yn feddyliol i gystadlu yn Canwr y Byd."

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n cymryd blynyddoedd i'r grefft i ddatblygu ac i'r hyder godi ac mae hynny'n bwysig, mae'n rhaid dyfalbarhau.

"Pan o'n i'n 17 oed ges i le gyda Chôr Cenedlaethol Cymru a sylweddolais mod i wir 'di joio hynny, felly ddechreuais edrych i mewn i fynd i golegau cerdd yn Llundain a phenderfynu mai i'r Guildhall o'n i isho mynd. Ro'n i wrth fy modd yn gwneud cwrs opera yn y Guildhall ac fe fues i'n lwcus iawn wedyn i gael gwaith yn syth allan o'r coleg."

Beth bynnag fydd canlyniad cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd nos Sul, mi fydd gwaith yn parhau i Sioned, a bydd hi ar y trên yn gynnar fore Llun ar ei ffordd i ymarfer opera The Magic Flute.

"Os dwi'n gallu gwneud bywoliaeth o ganu, a mod i'n hapus gyda'r canu, yna fyddai'n hapus."

Roedd Sioned Gwen Davies yn cystadlu ym mherfformiad cyntaf Y Wobr Datganiad ddydd Sul, a nos Fawrth mi fydd hi ar y llwyfan yn perfformio gyda'r gerddorfa yn rownd 2 Y Brif Wobr, gan obeithio mynd ymlaen i'r rownd derfynol ar Fehefin 18.

Mae mwy o fanylion am y gystadleuaeth a chlipiau sain a fideo arbennig ar wefan BBC Canwr y Byd Caerdydd.