Dim trydaneiddio'r rheilffordd hyd at Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Trenau
Disgrifiad o’r llun,

Trenau diesel-drydanol newydd fel y rhain fydd yn rhedeg rhwng Llundain ac Abertawe - ond bydd y cledrau o'r gorllewin o Gaerdydd ddim yn rhai trydanol

Mae ysgrifennydd trafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd y rheilffordd hyd at Abertawe'n cael ei thrydaneiddio.

Dywedodd Chris Grayling bod y trenau hybrid diesel-drydanol fydd yn cael eu defnyddio ar y lein yn golygu bod "dim angen" trydaneiddio i'r gorllewin o Gaerdydd.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru bod peidio trydaneiddio gyfystyr â "thorri blynyddoedd o addewidion i bobl Cymru".

Mae'r llywodraeth honno eisoes wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi'r grym a'r arian i'r Cynulliad ddarparu trenau trydan ar gyfer y gorllewin.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Dai Lloyd, bod y penderfyniad yn "dro pedol sylweddol iawn, iawn", tra bod Cyngor Abertawe'n dweud ei fod yn "frad".

Disgrifiad,

Cairns: 'Posibiliadau' i Gymru gyda threnau newydd

Mewn erthygl i Wales Online, dolen allanol fore Iau, dywedodd Mr Grayling y bydd Abertawe'n cael "holl fudd" rheilffordd drydan ond "heb y misoedd o waith" a "gwasanaethau bws dros dro".

Yn ei ddatganiad yn ddiweddarach, dywedodd bod angen "ailystyried y ffordd rydyn ni'n moderneiddio'r rheilffyrdd" a "thrydaneiddio dim ond ble mae 'na fudd go iawn i deithwyr na fedran ni'i gael drwy dechnolegau eraill".

Ychwanegodd y bydd gwelliannau eraill yn cael eu gwneud i'r rhwydwaith, gan gynnwys trenau uniongyrchol i Ddoc Penfro o Lundain trwy Gaerfyrddin a newidiadau i orsafoedd Caerdydd ac Abertawe.

'Torri blynyddoedd o addewidion'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan Lywodraeth y DU "ddyletswydd i Gymru".

"Rydyn ni wedi galw'n gyson am drydaneiddio'r rheilffordd hyd at Abertawe", meddai llefarydd.

"Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod datganoli cyllid isadeiledd y rheilffordd... felly mae'n ddyletswydd arnyn nhw i fuddsoddi yng Nghymru.

"Os yw'r adroddiadau'n wir, bydd gyfystyr â thorri blynyddoedd o addewidion i bobl Cymru."

Disgrifiad,

Dr Dai Lloyd AC yn ymateb i'r penderfyniad i beidio trydaneiddio

Dywedodd Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, ei fod yn "ddig" ac mai "brad" oedd y penderfyniad.

Fe ddywedodd bod Llywodraeth y DU wedi addo y byddai trydaneiddio'n digwydd, a'i fod yn codi amheuon am eu hymrwymiad i Forlyn Abertawe yn ogystal.

Mewn cyfweliad ar raglen Y Post Cyntaf fore Iau, dywedodd AC Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru, Dai Lloyd, ei fod yn "siom enfawr" ac yn "benderfyniad gwarthus".

Ychwanegodd ei fod wedi cael "addewidion pendant gan wahanol lywodraethau" dros y blynyddoedd ac "felly mae'n cynrychioli tro pedol sylweddol iawn, iawn".

Disgrifiad,

Ydy teithwyr yn Abertawe eisiau trenau trydan?

Dywedodd Owain Davies o CBI Cymru hefyd bod y cyhoeddiad yn siom.

"Dwi'n siomedig iawn. Mae'r rhaid dweud ro'n i'n edrych 'mlaen i gael y rheilffordd wedi'i drydaneiddio", meddai.

"Mae'n dangos bod Llywodraeth y DU ddim yn barod i fuddsoddi yn yr ardal hon o Gymru sydd angen y math yma o fuddsoddiad.

"Os nad ydy'r cyllid ar gael, rhaid iddyn nhw ffeindio fe."