Pawb isho mynd i Sir Fôn!

Mae Geraint Løvgreen a'i fand wedi penderfynu eu bod nhw eisiau mynd i Sir Fôn wedi'r cyfan...

Daeth y criw at ei gilydd i recordio fersiwn newydd o'r gân, dolen allanol 'Dwi'm Isho Mynd i Sir Fôn' i ddathlu ymweliad Eisteddfod Genedlaethol 2017 â'r ynys.

A nawr "...ma' pawb isho mynd i Sir Fôn"!

Recordiwyd y gân wreiddiol 'Dwi'm Isho Mynd i Sir Fôn' gan Geraint Løvgreen a'r Enw Da yn yr 1990au cynnar.

Gweld y fideo gwreiddiol., dolen allanol

Meddai Geraint: "'Naeth pobl Sir Fôn ddim ei gymryd o'n rhy dda ar y pryd, dwi'm yn meddwl…"

Ond gyda'r Eisteddfod wedi'i leoli ar yr ynys eleni, dyma gyfle i'r criw wneud yn iawn am y fath sarhad!

"'Da ni'n hollol newid o tro 'ma! 'Da ni isho dod i Sir Fôn tro 'ma," meddai Geraint.

"A 'da ni'n edrych ymlaen rwan at weld pawb yn y Steddfod wrth gwrs…"

Mwy am Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar Cymru Fyw, dolen allanol.