'Y llygad du mwyaf ofnadwy yn hanes Cymru'

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy 20 mlynedd ers refferendwm datganoli yn 1997, fe fydd Cymru Fyw yn cyhoeddi cyfres o erthyglau yn edrych yn ôl ar hanes dyfodiad y Cynulliad, a'r newidiadau sydd wedi digwydd yng Nghymru ers hynny.

Ein gohebydd seneddol Elliw Gwawr sy'n dechrau drwy edrych nôl ar refferendwm 1979 pan wrthododd Cymru ddatganoli o fwyafrif enfawr.

Dim ond o drwch blewyn y pleidleisiodd Cymru o blaid datganoli yn 1997, ond roedd y canlyniad yn cynrychioli newid byd ers Refferendwm 1979.

Bryd hynny fe bleidleisiodd Cymru o bedwar i un i wrthod datganoli, gyda phob rhan o'r wlad yn pleidleisio Na.

Roedd yn ergyd drom i rai o benseiri datganoli yng Nghymru, ac mae'r emosiwn yn amlwg yn llais yr Arglwydd Elystan Morgan wrth iddo feddwl yn ôl at y cyfnod.

"Dyna'r siom mwyaf ofnadwy yn fy mywyd i mewn materion cyhoeddus o bell ffordd, roeddwn yn teimlo bod y cyfle olaf o bosib wedi mynd," meddai.

"Mi oeddwn i'n teimlo bod yr ergyd mor fawr, nid yn unig y golled, ond bod y mwyafrif yn ein herbyn mor aruthrol o fawr, na welen ni byth y dydd y byddai'r peth yn cael ei ail ystyried yn llwyddiannus."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arglwydd John Morris yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1979

Roedd y canlyniad yn sioc hefyd i'r Ysgrifennydd Gwladol wnaeth lunio'r mesur, yr Arglwydd John Morris.

"O'n i wedi meddwl tua chwe mis cyn hynny y byddai'n weddol agos. Ond o'n i'n meddwl 'san ni'n ennill.

"Ond doedd neb wedi dychmygu y byse ni wedi cael y ddau black eye mwyaf ofnadwy yn hanes Cymru."

Un o'r rhesymau am hynny oedd nad pawb yn y blaid Lafur oedd mor angerddol â nhw. Roedd llawer yn llugoer i'r syniad o ddatganoli, tra bod eraill wedi ymgyrchu'n agored yn erbyn.

"Roedd lleiafrif yn gwrthwynebu yn gryf iawn ac yn huawdl iawn, gyda theimlad y byddai'r Cynulliad yn cael ei reoli gan Gymry uniaith o'r gogledd, a theimlad yn y gogledd y byse'r Cynulliad yn cael ei rheoli gan ryw fath o ddatblygiad o gyngor sir Morgannwg," medd yr Arglwydd Morris.

O'r Ymgyrch Na

Yr Arglwydd Paul Murphy oedd Trysorydd yr ymgyrch Na yn '79 ac mae o'n dweud mai pryder ynglŷn â thwf cenedlaetholdeb oedd y prif reswm pam bod cymaint o aelodau Llafur yn gwrthwynebu.

"Cyn y refferendwm roedd yna gyfres o isetholiadau yng Nghymru, mewn seddi Llafur saff ble gafodd y mwyafrif ei dorri'n sylweddol," meddai.

"Roedd yna bryder y byddai'r llwyddiannau cenedlaetholgar yna yn gwthio Cymru ar drywydd fyddai'n mynd yn llawer pellach na datganoli."

Felly beth ddigwyddodd rhwng 1979 a 1997 i droi'r llanw?

Margaret Thatcher yw ateb cadarn y tri.

"Dwi'n credu bod y teimlad bod pobl wedi cael llond bol o Thatcher yn fwy allweddol na dim arall," medd yr Arglwydd Morris.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl un o fewn y blaid Lafur, gan gynnwys yr Arglwydd Kinnock, yn llafar iawn yn erbyn datganoli

Does dim dwywaith bod Cymru wedi newid yn y 18 mlynedd y bu mewn grym. Roedd yr hen ddiwydiannau Cymreig yn diflannu, gan adael ei farc ar gymoedd y de.

Ac wedi cyfres o Ysgrifenyddion Gwladol Ceidwadol, oedd yn dangos prin ddim diddordeb yng Nghymru yn ôl llawer, fe gafodd nifer sylweddol o aelodau Llafur, fel yr Arglwydd Murphy eu perswadio i newid eu meddwl.

"Fe ddechreuodd pobl newid eu meddwl - y byddai Llywodraeth Lafur yng Nghymru ganwaith gwell na degawd arall dan y Ceidwadwyr. Dyna pam y gwnaeth pobl fel fi, fy nhad, a phob math o bobl yn y cymoedd newid," meddai.

"Daeth y newid mawr ym meddylfryd pleidleiswyr Llafur."

Disgrifiad o’r llun,

Fe drodd siom yr Arglwydd Elystan Morgan yn 1979 i orfoledd 18 mlynedd yn ddiweddarach

Y daith at '97

Mae o'n credu mai dyna oedd yn allweddol i'r fuddugoliaeth yn 1997, ond roedd poblogrwydd Tony Blair, a'r teimlad o newid a ddaeth wedi ei fuddugoliaeth ysgubol, hefyd yn holl bwysig.

Gyda mesur 1978 yn sylfaen, roedd y gwaith caled eisoes wedi'i wneud yn ôl yr Arglwydd Morris, oedd 'nôl yn y llywodraeth fel Twrnai Cyffredinol.

"Roedd fy mysedd ar y tanau o hyd yn 1997, ac yn gallu sicrhau fod y mesur bron yr un peth a'r mesur o'n i wedi'i baratoi yn 1978. Felly roedd gwaith pwyllgor y cabinet yn rhwydd oherwydd roedden ni'n adeiladu ar yr hyn wnaed o'r blaen.

"Roedd o'n bwysig nad oedden ni'n oeri'r cledd, bod ni'n yn mynd ymlaen yn union syth. Y syndod mawr yn hanesyddol yw bod y blaid Lafur, sydd â mwyafrif llethol â dim diddordeb mewn datganoli, wedi rhoi gymaint o amser llywodraeth i ddatganoli."

Iddo fo ac i'r Arglwydd Elystan Morgan roedd yna deimlad fod eu gwaith dros y degawdau wedi dwyn ffrwyth.

"Pan 'dach chi wedi bod yn brwydro am bron i hanner can mlynedd, pan 'dach chi'n gweld gwireddu beth mae fy mhlaid wedi ei sefydlu - mae'n fater o falchder mawr."