Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 16, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Beti a'i Phobol - Streic y glöwyr

glöwyr - miners
cefnogaeth - support
cwrdda - to meet
carchar - prison
yn barhaol - all the time
casglu - to collect
losin - sweets
twlu nhw mas - to throw them out

...Mike Reynolds yn cofio amser streic y glöwyr a’r adeg pan aeth nifer o löwyr, gan gynnwys Mike, i Lundain i godi arian. Roedd Mike yn siarad efo Beti George ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, gan ei bod yn drideg mlynedd ers y streic fawr. Ond pam oedd rhaid iddo fo fynd i byncar niwclear yn y ddinas bell? Dyma Mike yn esbonio...

Geraint Lloyd - Morocco

Affrica, hyd yn oed - Africa, even
gwirfoddoli - volunteering
cyffrous - exciting
hyfforddi - training
copa - summit
goro (gorfod) - to have to
arddangosfa celf a chrefft - arts and craft exhibition
lluniaeth ysgafn - light refreshments
call iawn - very wise
uchder - height

Mike Reynolds yn fan'na yn sôn wrth Beti George am rai o'r ffyrdd y buodd o'n codi arian i helpu'r glöwyr yn ystod y streic. Rwan, dw i'n gwybod bod Ynys Môn yn lle fflat iawn, ond oes rhaid mynd yr holl ffordd i Foroco i ddringo mynydd? Dyna mae Hawys Mererid o Bentre Berw ar Ynys Môn yn ei wneud. Mae Hawys yn mynd i Ysgol Uwchradd Llangefni ac mi fuodd hi'n dweud wrth Geraint Lloyd nos Sul am yr antur fawr sydd o'i blaen hi...


Geraint Lloyd - Daniel Lloyd

hanes cynnar - early history
diwydiant cerddoriaeth - music industry
adnabyddus - famous
delfrydol - ideal
cynhyrchwyr - producers
argoeli'n dda - augurs well
y baich canu - the main singing duties
dynwared - to imitate
yn flewog - hairy
profiad - an experience

Hawys Mererid yn amlwg wedi cyffroi wrth feddwl am y daith i Foroco, a phob lwc i'r criw i gyd ynde? Dan ni am aros efo Geraint Lloyd rwan a chlywed clip bach o sgwrs gafodd o efo Daniel Lloyd nos Fawrth. Mae Daniel ar hyn o bryd yn actio ac yn canu mewn sioe am fywyd Tom Jones. Ond mae Tom Jones dal yn amlwg ar ein sgriniau teledu ar raglenni fel 'The Voice'. Pa ran o fywyd Tom sy'n cael ei bortreadu yn y sioe felly...?

Dylan Jones - Moto beics

moto beic - beic modur
poblogaidd - popular
am awran - for an hour or so
rhannu - sharing
creu helbul - causing havoc
canu cyrn - sounding the horn
ddim bod ni'n gyrru - not that we were speeding
y ffefryn - the favourite
fel rheol - as a rule
llond gwlad (idiom) - loads of

O fyd Tom Jones i fyd moto beics Ynys Môn. Mae gan Glwb Beiciau Modur yr ynys gynlluniau arbennig dros y Pasg yma. Gwrandwech ar y clip nesa yma i glywed yn union be ydy nhw, ond peidiwch a chael eich synnu tasech chi'n gyrru o gwmpas yr ynys dros y gwyliau a gweld llawer iawn o bobl ar ochr y ffordd yn cario wyau. Ond pam sgwn i? Dyma'r ateb gan Derwyn Jones o'r clwb...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Penblwydd Hapus Gwyn Pierce Owen !