British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Mehefin 2011, 06:09 GMT 07:09 UK
Celt i ddathlu pen-blwydd Y Frenhines

Celt yr arwain gorymdaith
Celt fydd yr unig geffyl gwedd yn yr orymdaith fawr

Fe fydd yna falchder arbennig i deulu o Sir Benfro wrth i Seremoni Cyflwyno'r Faner gael ei chynnal y tu allan i Balas Buckingham i nodi pen-blwydd y Frenhines ddydd Sadwrn.

Celt o Eglwyswrw fydd yr unig geffyl gwedd yn y seremoni, gorymdaith fydd yn cael ei harwain gan yr Household Cavalry.

Cafodd Celt ei fagu ar fferm Carn Huan ac mae'r teulu wedi bod yn magu ceffylau gwedd ers saith cenhedlaeth.

Cafodd y ceffyl ei brynu oddi wrth deulu Carn Huan ddwy flynedd yn ôl gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn ôl Huw Murphy, cyn berchennog Celt, bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod mawr.

Celt
Cafodd Celt ei brynu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

"Mae'n fraint i ni fel teulu a braint i ni fel ardal yma yng ngogledd Penfro fod y ceffyl wedi dod o fferm fach yn y wlad i ddatblygu i weithio yn yr Household Cavalry yn Llundain."

Dywedodd ei frawd Paul fod y teulu wedi bod â chysylltiad gyda cheffylau gwedd ers 1849.

"Ma' lot o geffylau wedi eu magu yma, ac mae Celt wedi bod yn llwyddiannus iawn - ni'n browd iawn."

Dywedodd Paul hefyd fod y ceffyl eisoes wedi bod ar ddyletswydd a hynny ar ymweliad swyddogol Emire Quatar.

"Fe wnaeth e hynny heb ffws na ffwdan."

Un arall sy'n cofio Celt yw Anna Jones, rheolwr y fferm.

"Fi'n cofio fe'n ebol bach.

"Ro'dd natur mor dawel fe all unrhyw un wneud unrhyw beth da fe, roedd plant yn gallu gwneud unrhyw beth da fe, 'oedd e'n sefyll mas.

"Os oedd unrhyw geffyl yn gallu gwneud e Celt fyddai'r ceffyl yna oherwydd ei natur."



HEFYD
Hyder y Frenhines yn y Cynulliad
07 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific