Mae Prifysgol Bangor yn dilyn ôl traed Aberystwyth a Chaerdydd
|
Prifysgol Bangor yw'r diweddaraf yng Nghymru i fynegi dymuniad i godi ffioedd o £9,000 ar fyfyrwyr o fis Medi 2012. Mae'r brifysgol wedi cyflwyno cynllun ffioedd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i geisio cael cymeradwyaeth. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr o Gymru ddim ond yn talu tau £3,400 i'r brifysgol. Mae Bangor yn dilyn ceisiadau tebyg gan brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd i godi'r ffioedd uchaf sy'n cael eu caniatáu. 'Heriol' Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, John Hughes: "Mae Bangor wedi ymfalchïo mewn cynnig profiad addysgol o safon uchel i'r myfyrwyr, ac er gwaetha'r hinsawdd economaidd heriol rydym yn benderfynol o gadw a gwella'r hyn sy'n cael ei gynnig gennym.
|
Rydym yn gwrthod y ddadl y byddai ffioedd is yn cael effaith ar enw da unrhyw sefydliad
Jo Caulfield Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor
|
"Mae'n fwriad gennym gynyddu'r nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, i fuddsoddi yn yr isadeiledd addysgol ac i wella ein darpariaeth hamdden a chwaraeon i fyfyrwyr. "Mewn symudiad arloesol, bydd y Brifysgol yn cyflwyno aelodaeth rhad ac am ddim i gymdeithasau a grwpiau Undeb Y Myfyrwyr, a mwy o gefnogaeth i weithgareddau gwirfoddol a datblygu sgiliau sy'n ymwneud â byd gwaith. "Rydym eisoes yn buddsoddi'r drwm yng nghynllun Pontio, fydd yn cynnwys adnoddau dysgu newydd ynghyd a theatr, sinema ac Undeb Myfyrwyr newydd." Siomedig Er hynny, dywedodd nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd i'r brifysgol. Ond yng nghyswllt newidiadau i'r system ffioedd, daeth y brifysgol i'r canlyniad fod rhaid codi'r lefel yma o ffioedd er mwyn sicrhau y bydd profiad y myfyrwyr yn cael y flaenoriaeth uchaf.
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn siomedig gyda'r penderfyniad
|
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Myfyrwyr Bangor eu bod yn siomedig gyda'r penderfyniad. Dywedodd llywydd yr undeb, Jo Caulfield, yn y datganiad: "Mae hyn yn rhwystr arall i fyfyrwyr o gefndiroedd tlawd gael mynediad i addysg uwch. "Rhaid i bob prifysgol, gan gynnwys Bangor, ystyried o ddifri eu cyfrifoldebau i sicrhau eu bod yn buddsoddi arian a sylw i ehangu mynediad os ydyn nhw am godi'r mwyafswm o ran ffioedd. "Byddwn yn annog CCAUC i edrych yn ofalus ar gynlluniau ffioedd bob sefydliad i sicrhau bod ymroddiad gwirioneddol i fyfyrwyr o bob cefndir. "Rydym yn gwrthod y ddadl y byddai ffioedd is yn cael effaith ar enw da unrhyw sefydliad. "Mae'n siomedig gweld fod prifysgolion nawr yn credu fod y ffioedd y maen nhw'n eu codi yn adlewyrchu eu safon, yn hytrach na chanolbwyntio ar wneud safonau dysgu a chyfloed am ddatblygiad personol fel ffyrdd o ddenu darpar fyfyrwyr." Morgannwg Yn ddiweddarach dydd Iau, cyhoeddodd Prifysgol Morgannwg eu bod nhw wedi cyflwyno cynllun i'r cyngor fyddai'n golygu codi rhwng £7,500 a £9,000 ar fyfyrwyr hefyd. Byddai myfyrwyr ar gwrs gradd anrhydedd llawn yn y brifysgol, ac yng Ngholeg Cerdd a Drama'r Brifysgol, yn talu £9,000 y flwyddyn.
Bydd Prifysgol Morgannwg hefyd yn codi £9,000 gyda sêl bendith CCAUC
|
Dywedodd yr Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr, Julie Lydon: "Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd, ond roedd yn angenrheidiol yn wyneb gostyngiad sylweddol a chyflym yn y cyllid ddaw gan y llywodraeth. "Mewn marchnad gystadleuol, bydd darpar fyfyrwyr yn gwneud penderfyniad ar sail nifer o ffactorau, yn enwedig gwerth am arian. "Mae 94% o fyfyrwyr Morgannwg naill ai mewn gwaith neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis i raddio, ffigwr sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd i'r DU." Mewn ymateb dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru bod rhaid iddyn nhw dderbyn cynllun gan unrhyw sefydliad sy'n bwriadu codi dros £4,000. "Fe fydd y cynlluniau yma yn manylu ar y buddsoddiad y byddan nhw'n bwriadu eu gwneud gyda'r incwm newydd a hynny er mwyn annog cydraddoldeb mynediad a hybu addysg uwch. "Fe fydd rhaid i'r cyngor cymeradwyo unrhyw gynllun cyn i'r ffioedd gael eu codi. "Rhaid i ni dderbyn cynlluniau erbyn Mai 31 2011 ac fe fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad ar Orffennaf 11 2011 a ydyn nhw wedi eu derbyn a'i peidio."
|