British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 12 Mehefin 2011, 10:51 GMT 11:51 UK
Beirniadaeth Ieuan 'yn ddi-chwaeth'

Elfyn Llwyd AS
Roedd Elfyn Llwyd yn siarad ar 'The Politics Show' ar BBC Cymru

Mae un o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru wedi rhoi ergyd frathog i'r rhai o fewn y blaid sydd am weld Ieuan Wyn Jones yn rhoi'r gorau iddi fel arweinydd yn syth.

Roedd Elfyn Llwyd yn siarad mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen 'The Politics Show' ar BBC Cymru.

Cyfaddefodd fod Plaid Cymru nid yn unig wedi cael etholiad siomedig yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, ond fod yr etholiad seneddol yn 2010 wedi bod yn un gwael hefyd.

'Di-chwaeth'

Ond roedd yn feirniadol o'r rhai sy'n galw am ben Ieuan Wyn Jones yn syth.

"Di-chwaeth yw'r gair," meddai. "Cofiwch fod rhai o'r lleisiau yma rŵan - rhain oedd y cefnogwyr mwyaf, y bobl oedd mwya' uchel eu cloch pan oedd Ieuan yn ein harwain ni i mewn i lywodraeth am y tro cyntaf yn ein hanes.

"Rŵan maen nhw'n troi arno fo. Di-chwaeth yw un gair - fedra i feddwl am eiriau eraill ond ddim ar yr awyr ar hyn o bryd.

"Ieuan ydi'r strategwr gorau sydd gan Blaid Cymru.

"Dwi'n credu y dylid gadael iddo fynd yn ei amser ei hun, er dwi'n hyderus fod yna lawer i ddod ganddo fo yn y dyfodol.

"Dwi'n gwybod fod ei galon o'r curo dros Blaid Cymru, a'r peth gorau i'r bobl yma wneud ydi tewi.

"Dydyn nhw'n gwneud dim lles i Blaid Cymru, a dydyn nhw'n gwneud dim lles iddyn nhw'n hunain ar ddiwedd y dydd chwaith."

Gwyliau

Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones fis diwethaf y byddai'n rhoi'r gorau i arweinyddiaeth Plaid Cymru o fewn cyfnod y Cynulliad presennol - sef o fewn y pum mlynedd nesaf.

Cafodd ei feirniadu gan lawer am beidio bod yn bresennol yn agoriad y pedwerydd Cynulliad gan y Frenhines yr wythnos ddiwethaf - roedd ar wyliau yn Ffrainc, ac wedi trefnu'r gwyliau cyn gwybod pryd fyddai'r agoriad swyddogol yn ôl Mr Jones.

Ond roedd Mr Llwyd yn dweud fod sawl un o fewn y blaid ar fai am berfformiad Plaid Cymru yn y ddau etholiad diwethaf.

Dywedodd: "Nonsens pur ydi beio un unigolyn am ddau etholiad gwael.

"Mae yna lawer un ohonom ni efallai yn haeddu beirniadaeth, dwn i ddim.

"Ond yn sicr mae'n rhaid i ni ail edrych ar ein strwythurau, ac ar bob peth yn ymwneud â Phlaid Cymru.

"Dyma'r cyfle rŵan - 'da ni yn yr wrthblaid, mae yna amser i ail-adeiladu ac mae angen defnyddio'r amser i ddod yn ôl yn blaid gref, achos mae'n sicr o ddigwydd y byddwn ni'n ôl ac yn medru ffurfio llywodraeth eto cyn bo hir."



HEFYD
'Presenoldeb dewisol' Plaid Cymru
08 Meh 11 |  Newyddion
Ansefydlogrwydd i Blaid Cymru?
17 Mai 11 |  Newyddion
Marathon o ras i arwain Plaid Cymru
14 Mai 11 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr
13 Mai 11 |  Newyddion
Strategaeth etholiadol o dan y lach
09 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific