Yng Nghymru mae canran ddiweithdra yn 7.9%
|
Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi gostwng, yn ôl yr ystadegau diweddaraf. Dywedodd y Swyddfa Ystadegau fod 115,000 o bobl Cymru'n ddi-waith. Mae hyn yn ostyngiad o 9,000 yn ystod y tri mis hyd at fis Ebrill eleni. Hefyd, bu cynnydd o 19,000 yn nifer y bobl mewn gwaith - i 1,349,000. Yng Nghymru mae canran diweithdra yn 7.9%, o gymharu â 7.7% yng ngweddill y DU. Mae'r nifer o bobl sydd yn economaidd anweithgar yng Nghymru - 480,000 - wedi gostwng 10,000 yn y chwarter. Ar draws y DU, gostyngodd diweithdra 88,000 i 2.43m yn y tri mis hyd at fis Ebrill, y gostyngiad mwyaf ers haf 2000. Polisïau yn gweithio Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud bod y ffigyrau diweddar ar gyfer Cymru yn dangos bod polisïau economaidd y Llywodraeth ar gyfer Cymru y penderfyniad cywir. "Dwi'n croesawu'r newyddion bod mwy o bobl mewn gwaith a bod nifer y rhai sy'n ddi-waith yn gostwng. "Mae'r ffigyrau yma yn galonogol ac yn dangos bod y polisïau yn gweithio yng Nghymru." Ond dywedodd nad eu cyfrifoldeb nhw yn unig yw taclo diweithdra. "Mae'n allweddol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n gadarnhol gyda'r Llywodraeth yn San Steffan i greu'r amgylchiadau cywir ar gyfer creu swyddi a thwf economaidd yng Nghymru."
|