British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Mehefin 2011, 05:41 GMT 06:41 UK
Ofnau am brinder gwelyau yn arwain at bryder diogelwch

Ward ysbyty
Mae doctoriaid a nyrsys yng Nghymru wedi galw am newidiadau i'r drefn bresennol

Yn ôl ymchwil gan BBC Cymru mae nifer o ysbytai Cymru yn orlawn, gyda phryderon am nifer uchel o welyau llawn.

Mae arweinwyr meddygon a nyrsys yn dweud bod staff dan ormod o bwysau - gydag argyfwng gwelyau trwy'r flwyddyn.

Maen nhw'n galw am newidiadau i'r drefn bresennol gan ychwanegu y gallai triniaethau llawfeddygol gael eu canslo.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 'na gyfrifoldeb ar fyrddau iechyd i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu mewn modd diogel ac effeithiol.

Mae nyrsys wedi fy ffonio mewn dagrau am nad oedden nhw'n gallu cyflawni gweithrediadau clinigol
Tina Donnelly

Mewn rhai achosion roedd cyfradd fisol gwelyau mewn unedau llym - sydd i fod ar gyfer cleifion sydd angen gofal brys - mor uchel â 100%

Cred Coleg Brenhinol y Llawfeddygon na ddylai uchafswm defnydd gwelyau fod yn uwch na 82%.

'Mewn peryg'

Yn ogystal, mae'r coleg yn honni fod cyfraddau uwch yn golygu bod safon gwasanaethau'r ysbytai "mewn peryg o waethygu".

Nid yw ffigyrau defnydd gwelyau yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd ond fe ddaeth y ffigyrau i law BBC Cymru drwy gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae'r wybodaeth yn nodi fod cyfradd y gwelyau llawn mewn unedau aciwt yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd drwy gydol 2010 wedi bod rhwng 92% a 94%.

Roedd y gyfradd yn Ysbyty Llandochau yn 100% am dri o'r 12 mis yn ystod 2010.

Ac roedd yr ystadegau am Ysbyty Brenhinol Gwent, yng Nghasnewydd yn dangos fod y gyfradd dros 90% am 10 o'r 12 mis yn ystod y llynedd.

Yn Sir Gaerfyrddin, 87% oedd cyfartaledd y gyfradd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.

Pryder

Ym Mhowys mae'r ystadegau yn cynnwys holl welyau'r ysbytai.

Yn ystod 2010 roedd cyfradd llenwi gwelyau Ysbyty'r Trallwng yn 97% a 95% oedd y gyfradd ar gyfer ysbytai Bronllys ac Aberhonddu.

Yng ngogledd Cymru mae ffigurau a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am 2010 yn datgan cyfradd rhwng 81% a 83% yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

"Roedden ni'n arfer dioddef o argyfwng gwelyau yn ystod y gaeaf ond yn awr mae'r argyfwng yn cael ei gynnal drwy'r flwyddyn," meddai Dr Sharon Blackford, cadeirydd pwyllgor ymgynghorol Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain.

"Rydyn ni wedi cyrraedd pen ein tennyn ac mae'r broblem yn cael effaith ar y ffordd mae'r wardiau yn cael eu gweithredu o ddydd i ddydd.

"Mae rhai cleifion wedi eu gosod yn y wardiau anghywir..."

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) hefyd wedi datgan eu pryder ynglŷn â'r ffigyrau.

"Mae'r pwysau gwaith ar staff yn anferth," meddai Tina Donnelly, cyfarwyddwr RCN Cymru.

"Mae'r nyrsys yn dweud nad oes genyn nhw amser i ofalu'n iawn am gleifion.

"Mae nyrsys wedi ffonio fi mewn dagrau am nad oedden nhw'n gallu cyflawni gweithrediadau clinigol."

Safon broffesiynol

Mae'r RCN yn dweud y dylid ystyried gosod amcan o 82% ar gyfer defnydd gwelyau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru "nad oes amcan swyddogol ar gyfer hyn".

"Mae Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am reoli nifer y gwelyau llawn mewn ysbytai i safon ddiogel ac effeithiol."

Ond mae Colin Ferguson, sy'n aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn credu y dylid cyflwyno safon broffesiynol ar gyfer ysbytai Cymru.

Mae Mr Ferguson wedi galw am adolygiad o'r achos gan Lywodraeth y Cynulliad.

"Rwy'n credu bod y lefelau uchel o gyfradd llenwi gwelyau yng Nghymru yn arwydd bod y system o bwysau," meddai Mr Ferguson a ddatganodd ei bryder bod llawdriniaeth gormod o gleifion yn cael eu canslo.

"Y peryg yw gall yr holl system ddod i stop," meddai.



HEFYD
Pryderon am ddyfodol ysbyty
02 Ebr 11 |  Newyddion
Gofal yn 'warthus o annigonol'
14 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific