Cafodd Ben a Catherine Mullany eu lladd ar ddiwrnod olaf eu mis mêl
|
Mae'r rheithgor yn achos dau ddyn, sydd wedi'u cyhuddo o ladd cwpwl o Gwm Tawe oedd ar eu mis mêl, wedi clywed disgrifiad manwl o'r ystafell westy ble y cawson nhw'u saethu. Bu farw Ben a Catherine Mullany, ill dau yn 31 oed ac o Bontardawe, o ganlyniad i'r ymosodiad yng Ngwesty Cocos yn Antigua ym mis Gorffennaf 2008. Clywodd Uchel Lys Antigua fod dillad wedi'u gorchuddio gan waed wedi'u darganfod a bod sêff yr ystafell wedi'i hagor. Mae Avie Howell, 20, a Kaniel Martin, 23, yn gwadu'r llofruddiaethau. Mae'r pâr hefyd yn gwadu lladd perchennog siop leol, Woneta Anderson, 43 oed. Clywodd y rheithgor ddisgrifiad o ystafell wely Mr a Mrs Mullany ac fe ddangoswyd lluniau iddynt. Gwaed a bwledi Bu Uwch-arolygydd Cynorthwyol Antigua, Carmel Lewis, sydd hefyd yn arbenigwr fforensig a ffotograffydd i'r heddlu, yn rhoi tystiolaeth. Clywodd y llys ei bod yn amlwg bod rhywun wedi bod yn edrych drwy'r ystafell, gyda dillad wedi'u taflu, ac roedd cynfas wen a chrys-T glas wedi'u gorchuddio â gwaed ar y gwely. Dywedwyd bod drws yr ystafell ar agor a bod corff Catherine Mullany wedi' ddarganfod ar y llawr, gyda thair bwled gerllaw. Yn ôl yr Uwch-arolygydd Cynorthwyol Lewis, roedd Mrs Mullany wedi cael anaf ger ei llygad dde. Lluniau Dywedodd wrth y llys ei fod wedi tynnu 60 o luniau o'r ystafell. Mae'r achos eisoes wedi clywed tystiolaeth gan feddyg a ddywedodd bod arwyddion bod Mrs Mullany wedi ceisio ymladd cyn iddi gael ei lladd. Roedd y cwpwl ar ddiwrnod ola' eu mis mêl pan dorrodd o leia' un dyn arfog i mewn i'w hystafell yn y gwesty. Bu farw, Mrs Mullany, oedd yn feddyg, yn fan a'r lle a chafodd ei gŵr Ben, myfyriwr ffisiotherapi, ei anafu'n ddifrifol. Cafodd ei gludo'n ôl i Brydain i gael triniaeth ond bu farw yn Ysbyty Treforys, Abertawe, wythnos yn ddiweddarach. Mae'r achos yn parhau.
|