British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011, 20:11 GMT 21:11 UK
Mis mêl: Achos llys yn dechrau

Mullany: Achos llys wedi dechrau

Mae achos llys yn erbyn dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpl o dde Cymru ar eu mis mêl yn Antigua wedi cychwyn bron i dair blynedd ers iddyn nhw gael eu lladd.

Cafodd Ben a Catherine Mullany, o Bontardawe ger Abertawe, eu saethu yn eu gwesty ar ddiwrnod olaf eu mis mêl.

Mae Avie Howell a Kaniel Martin yn ymddangos yn Uchel Lys Antigua.

Mae'r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o lofruddio tri o bobl eraill.

Eisteddodd Mr Howell a Mr Martin wrth ymyl ei gilydd yn y doc, gyda swyddogion diogelwch y naill ochr i'r llall iddyn nhw.

Yna fe wnaeth y rheithgor o wyth dyn a phedair menyw dyngu llw.

Yr erlynydd Anthony Armstrong sy'n agor yr achos o flaen y Barnwr Mr Ustus Richard Floyd.

Claddu

Ar Orffennaf 27 2008 y cafodd y ddau eu saethu, bythefnos ar ôl eu priodas.

Bu farw Mrs Mullany - oedd newydd gymhwyso fel meddyg - yn syth.

Roedd ei gŵr yn astudio i fod yn ffisiotherapydd a bu farw wythnos yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghymru ar ôl cael ei gludo mewn awyren.

Roedd wedi bod ar beiriant cynnal bywyd yn Antigua ac yn ystod ei gyfnod yn Ysbyty Treforys.

Cafodd y ddau eu claddu ym mynwent yr eglwys lle wnaethon nhw briodi ychydig dros fis yn gynharach.

Y tri arall y mae Mr Howell a Mr Martin wedi eu cyhuddo o ladd yw'r mecanic Tony Louisa, 43 oed; Rafique Kareem Harris, myfyriwr 24 oed, a pherchennog siop 43 oed, Woneta Anderson Walker.

Mae'r ddau ar hyn o bryd yn wynebu achos llys am lofruddio Mr a Mrs Mullany a Mrs Walker.

Bydd achos llys arall yn ddiweddarach pan fyddan nhw'n wynebu cyhuddiadau o lofruddio Mr Louisa a Mr Harris.

Mae disgwyl i'r achos bara am ddau fis.



HEFYD
Achos Mullany: Mehefin
23 Mai 11 |  Newyddion
Llofruddio: Pennu dyddiad achos
18 Ion 11 |  Newyddion
Antigua: Cyhuddo dau
18 Awst 08 |  Newyddion
Saethu ar fis mêl: Ben wedi marw
03 Awst 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific