Mae'r brifsygol wedi cyflwyno dau lefel o ffioedd
|
Prifysgol Cymru Casnewydd yw'r diweddara i gyhoeddi manylion ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13. Maen nhw wedi cyflwyno cynllun i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i geisio cael cymeradwyaeth ddydd Mawrth. O dan y cynlluniau maen nhw wedi cynnig dau lefel o ffioedd, £8,250 a £9,000. Roedd rhaid i brifysgolion gyflwyno cynlluniau i'r Cyngor erbyn Mai 31. Daw cyhoeddiad Casnewydd ar ôl i Brifysgol Bangor a Phrifysgol Morgannwg gyhoeddi cynlluniau tebyg ddydd Mawrth. Mae prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd hefyd wedi gwneud cyhoeddiad tebyg yn ystod yr wythnosau diwethaf. Costau cyrsiau Dywedodd Prifysgol Cymru Casnewydd y byddai'r cynlluniau yn cynorthwyo'r rhai llai cefnog yn ariannol i dderbyn Addysg Uwch. Mae'r penderfyniad i gynnig dwy raddfa yn amrywio o gwrs i gwrs yn ôl y Brifysgol. Ymhlith y cyrsiau sy'n dod o dan y lefel ucha' o gostau y mae ffilm, ffasiwn a ffotograffiaeth. O dan ganllawiau newydd mae disgwyl i brifysgolion wario o leiaf 30% o incwm dros £4,000 gan bob myfyriwr ar ehangu'r cyfle i bobl gael astudio mewn addysg uwch a gwella profiadau i fyfyrwyr. "Mae Prifysgol Cymru Casnewydd wedi ystyried pob opsiwn posib oedd ar gael i ni cyn cyflwyno'r cynlluniau yma," meddai Is-Ganghellor y Brifysgol Dr Peter Noyes. "Codi ffioedd yw'r unig opsiwn i ni. "Mae gan Gasnewydd eisoes record dda i ehangu'r ddarpariaeth gyda nifer fawr yn dod o ardaloedd difreintiedig Cymru." Dywedodd y Brifysgol eu bod wedi ymgynghori gydag Undeb y Myfyrwyr wrth fynd ati i baratoi'r cynllun. Fe fydd y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystyried y cais. Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd y byddan nhw'n gwneud cyhoeddiad ar Orffennaf 11 os ydyn nhw'n derbyn y cynlluniau a'i pheidio.
|