Malodd un o'r heddweision ffenest y car a neidiodd y llall ar y boned cyn cicio'r sgrin wynt
|
Mae dau aelod o Heddlu Gwent wedi eu cael yn ddieuog o gamwedd ar ôl iddyn nhw falu ffenest car ar ôl dilyn car dyn 71 oed. Malodd un o'r heddweision ffenest y car a neidiodd y llall ar foned yr un car cyn cicio'r sgrin flaen. Cafodd y cyfan ei ffilmio ar gamera car yr heddlu ar ôl iddyn nhw ddilyn a cheisio dal Robert Whatley, o Frynbuga, Sir Fynwy, am 17 munud. Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod gweithredoedd y plismyn "yn gyfiawn".
|
Wedi gwrandawiad disgyblu tridiau gallwn gadarnhau bod dau heddwas yn ddieuog o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol a bod eu gweithredoedd yn gyfiawn
|
Stopiodd yr heddlu Mr Whatley y llynedd ar ôl iddyn nhw sylwi ei fod o'n gyrru heb wregys. Ond gyrrodd Mr Whatley i ffwrdd ac fe'i dilynwyd gan y ddau heddwas am wyth milltir ar ffyrdd gwledig rhwng Cwmbrân a Brynbuga cyn iddyn nhw ddefnyddio'r ddyfais 'stinger' i geisio stopio ei Range Rover. Meddyginiaeth Ond cyn i hynny ddigwydd stopiodd Mr Whatley ei gar ac arhosodd i'r heddweision nesáu at y car. Ar y pryd, dywedodd Mr Whatley ei fod wedi gyrru ymaith am ei fod yn meddwl fod y plismyn wedi gorffen delio ag ef ac roedd e angen meddyginiaeth am ei fod yn dioddef o glefyd y galon.
Stopiodd yr heddlu Mr Whatley ar ôl iddynt sylwi ei fod e'n gyrru heb wregys
|
Cafwyd Mr Whatley yn euog o yrru heb wregys diogelwch, peidio stopio ar gyfer heddwas, a bod eu ffenestri arlliwedig o ansawdd anghyfreithlon. Ond cafwyd Mr Whatley yn ddieuog o beidio stopio ar ôl damwain. Yn ogystal, plediodd yn euog i fod â phlatiau cofrestru anghyfreithiol. Cafodd dirwy o £235 yn ogystal â chael gorchymyn i dalu costau o £300. Dywed datganiad gan Heddlu Gwent: "Wedi gwrandawiad disgyblu tridiau gallwn gadarnhau canfu dau heddwas yn ddieuog o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol a bod eu gweithredoedd yn gyfiawn. "Roedd y panel yn cynnwys uwch swyddogion o Lu Heddlu arall o dan oruchwyliaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu. "Mae Heddlu Gwent yn disgwyl y safonau uchaf o'u swyddogion a staff ac yn dilyn gwrandawiad pan glywyd holl dystiolaeth yr achos, yn cynnwys y dystiolaeth gamera, penderfynodd y panel fod gweithredoedd yr heddweision yn gyfiawn a'u bod yn ddieuog o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol."
|