Mae Geraint Stanley Jones wedi marw yn 79 oed

  • Cyhoeddwyd
Geraint Stanley
Disgrifiad o’r llun,

Bu Geraint Stanley Jones yn rheolwr BBC Cymru ac yn Brif Weithredwr S4C

Bu farw Geraint Stanley Jones, un o ffigyrau amlyca'r byd darlledu yng Nghymru, yn 79 mlwydd oed.

Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel cynhyrchydd, bu'n rheolwr BBC Cymru ac yn Brif Weithredwr S4C. Yn ogystal, chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad y celfyddydau yng Nghymru.

Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Pontypridd a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor cyn dechrau ar ei yrfa gyda'r BBC ar ddechrau'r 60au.

Treuliodd gyfnodau yn cynhyrchu rhaglenni materion cyfoes a rhaglenni dogfen cyn cael ei benodi yn Bennaeth Rhaglenni yn 1974.

'Ffrind mynwesol'

Un o'i gyfrifoldebau cyntaf yn y swydd honno oedd goruchwylio dechrau'r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm - ychydig a wyddai bryd hynny y byddai helyntion trigolion Cwmderi yn dal i hawlio sylw gwylwyr teledu 35 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ar ôl olynu Owen Edwards fel Rheolwr BBC Cymru yn 1981, fe osododd y sylfaen ar gyfer y berthynas rhwng y gorfforaeth ac S4C.

Yn 1985 cafodd swydd reoli gyda'r BBC yn Llundain, lle'r oedd yn gyfrifol am ddarlledu rhanbarthol. Bedair blynedd yn ddiweddarach daeth yn ôl i Gymru i gymryd yr awenau yn S4C.

Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr cafodd ffilm Hedd Wyn ei henwebu am Oscar.

Ymhlith ei swyddogaethau eraill, roedd wedi bod yn aelod o fyrddau rheoli Opera Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, yn is-lywydd y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, ac fe roedd yn gyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn 1993 fe gafodd ei anrhydeddu â'r CBE am ei wasanaeth i ddarlledu.

Bu'n westai penblwydd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru ym mis Ebrill 2013.

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Stanley fu'n gyfrifol am osod y sylfaen ar gyfer y berthynas rhwng y BBC ac S4C

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae cyfraniad aruthrol Geraint i fywyd cenedlaethol a diwylliannol Cymru, dros nifer o ddegawdau, o'n cwmpas ym mhob man. Ei weledigaeth a'i angerdd ef arweiniodd at sefydlu dwy orsaf radio genedlaethol, cyfres ddrama deledu hynaf y BBC, Pobol y Cwm, ac wrth gwrs, helpu i sefydlu S4C yn 1982.

"Yn fwyaf oll, Geraint o'dd un o'r dynion mwyaf caredig a hael i fi gwrdd â nhw erioed. Na'th e' byth golli ei gariad at ddarlledu ac ro'dd yn credu'n angerddol yn y cyfleoedd a'r sialensau.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynifer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus i elwa o'i eiriau a'i gyngor doeth ar nifer o achlysuron - ac ro'dd ei angerdd tuag at BBC Cymru ac at ddarlledu wastad yn amlwg.

Dywedodd Gareth Price, ei olynydd fel Rheolwr BBC Cymru a chyfaill iddo: "Fel cyfanwaith, roedd o'n ddyn darlledu o'r dechrau.

"Dwi wedi colli ffrind mynwesol ond mae Cymru wedi colli dyn mawr, a welwn ni byth rywun fel yna eto."

Mae'n gadael ei weddw Rhiannon a dwy ferch Sioned a Siwan.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 1993 fe gafodd ei anrhydeddu â'r CBE am ei wasanaeth i ddarlledu