Fy stafell i: Y Prifardd Gruffudd Owen

  • Cyhoeddwyd

Yn yr ystafell hon y sgrifennodd Y Prifardd Gruffudd Owen rannau o'r awdl fuddugol, Porth, a enillodd y Gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Fel golygydd sgriptiau Pobol y Cwm, yma hefyd mae'n gweithio ar sgriptiau'r gyfres, a threulio amser gyda'i fab bach Dyfed.

Dwi weithiau'n gweithio wrth y ddesg, ond weithiau'n eistedd ar y soffa. Fe golles i ddefnydd o'r ddesg 'ma am gyfnod pan cafodd Dyfed, fy mab bach, ei eni. Roedd ei stwff o ymhob man, ond dwi am drio ei hawlio yn ôl rŵan!

Mae'r Gadair yn ffitio yn dda rhwng y piano a'r ddesg. Mae ngwraig i, Gwennan, yn gallu chwarae'r piano ond byth yn gwneud, a dwi'n anobeithiol am chwarae ond yn trio! Un o'r ffefrynnau ar hyn o bryd ydy Ethiopia Newydd gan Jarman, dwi'n ffan mawr ohono.

O'n i'n falch iawn ei bod hi'n gadair fodern a bod lle braf i eistedd arni. Gwelais hi'n cael ei dadorchuddio am y tro cynta' ar y teledu, ar yr un diwrnod ag o'n i 'di cael galwad ffôn gan yr Eisteddfod i ddweud fy mod wedi ei hennill. Roedd hwnnw'n ddiwrnod cyffrous.

Ar dop y pentwr yma o lyfrau ar y ddesg, mae cyfrol o farddoniaeth fy nhaid, y diweddar John Rowlands. Dwi'n troi at Olwynion Aflonydd bob hyn a hyn. Roedd yn fardd gwlad o Ben Llŷn, yn cael ei adnabod fel Bardd y Lori Laeth. Bu farw ymhell cyn i fi gael fy ngeni, ac er bod ein bywydau ni mor wahanol - casglwr llaeth rownd ffermydd Llŷn oedd ei waith - rydyn ni'n cael ein cysylltu yn y cerddi.

Mae nofel gynta' Gwennan yn y pentwr hefyd a llyfr Smot, un Dyfed bach!

Mae llyfrau'n bwysig iawn, ond dwi hefyd yn treulio lot o amser yn gwylio rhaglenni Netflix ar y ffôn... fel sy'n cael ei godi yn yr awdl.

Dwi'n lwcus iawn i gael byw efo bardd ac awdur, mae Gwennan yn darllen fy ngwaith i ac yn rhoi cyngor. 'Dan ni yn yr un tîm Talwrn hefyd, Y Ffoaduriaid.

Dwi'n olygydd stori ar Pobol y Cwm, a dwi'n gweithio lot ar sgriptiau'r gyfres yn y stafell hon. Mae 'na sgriptiau ar eu hanner a llyfrau nodiadau gyda thameidiau o'r awdl ar y ddesg. Mae Pobol y Cwm yn cymryd lot o le yn fy mhen, dwi'n adnabod cymeriadau'r gyfres yn well na aelodau fy nheulu a ffrindiau!

Beth maen nhw'n ei fwyta, beth yw eu cyflog... dwi'n cario'r holl wybodaeth yma am bobl - sydd ddim yn bodoli - o gwmpas gyda fi. Mae'n swydd ddiddorol a chreadigol a dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod tri ohonon ni a enillodd brif wobrau'r Eisteddfod eleni yn gweithio ar y gyfres.

Ro'n i'n lwcus i ennill dwy stôl Stomp yn Eisteddfod Caerdydd eleni, yn ogystal â'r Gadair. Siôn Tomos Owen wnaeth ddylunio un Stomp Tŷ Gwerin (ar y dde) a chafodd stôl y Siwper Stomp ei dylunio gan Swci [Mared Lenny]. Dwi a Gwennan yn ffans mawr o'i gwaith hi fel artist a cherddor, ond pan enillais i hon do'n i ddim yn siŵr a oedd y tŷ yn ddigon cŵl i stôl mor ffynci!

Enillais i'r stôl yma mewn stomp a drefnwyd yng Nghaerdydd i godi arian i'r brifwyl. Mae wedi cael ei dyrchafu neu ei iselhau - pa bynnag ffordd 'da chi'n edrych arni - fel bwrdd i ddal coffi.

Ges i cymaint o lythyron a chardiau o longyfarch ar ôl ennill y Gadair ac mae detholiad ohonyn nhw yn dal i fyny yn y stafell. Un llythyr ges i oedd gan weddw y dramodydd Wil Sam. Fe wnes i astudio gwaith Wil Sam ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac oedd hi'n hyfryd cael y llythyr gan Dora.

Dwi 'di pori lot yn y cyfansoddiadau pan o'n i'n sgrifennu'r awdl, yn enwedig rhai y blynyddoedd diweddar i ddwyn syniadau!

Mae Dyfed y mab ychydig dros flwydd oed, ac fe gymerais i gyfnod o'r gwaith i edrych ar ei ôl. Nerys, cyd-weithiwr i mi, wnaeth y cerdyn Siwperdad pan ddechreues i ar gyfnod o dadolaeth!

Mae'r casgliad yma o gardiau a lluniau yn bwysig iawn i mi.

Yn y canol, mae 'na lun o ganolfan ysgrifennu Tŷ Newydd. Cerdyn o longyfarch ydy hwnna, ond mae'r lle yn golygu llawer i mi a Gwennan. Dyna lle wnaethon ni gyfarfod a fan'na wnaethon ni ddyweddïo hefyd.

Mae hon yn stafell aml-bwrpas, yn enwedig ers i Dyfed ddod i'r byd. Am gyfnod wrth i dyddiad cau cystadleuaeth y Gadair agosau, ro'n i'n codi'n gynnar cyn Gwennan a Dyfed ac yn dod lawr i'r stafell yma i weithio ar yr awdl.

Hefyd o ddiddordeb: