Cynllun tacsis ddim yn gwella 'argyfwng' y diwydiant

  • Cyhoeddwyd
Taxi
Disgrifiad o’r llun,
Pryder rhai yw bod cerbydau sydd wedi eu trwyddedu y tu allan i Gaerdydd yn dod i weithio yn y ddinas, gan effeithio gyrwyr y brifddinas

Nid yw cynllun i drawsnewid y ffordd mae tacsis yn gweithio yng Nghymru yn mynd i'r afael â'r "argyfwng" yn y diwydiant, yn ôl gyrwyr.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau tynnu'r grym i drwyddedu tacsis oddi ar gynghorau a chreu corff cenedlaethol yn lle'r system bresennol.

Mae undeb wedi galw am roi'r gallu i gynghorau rwystro tacsis o'r tu allan i siroedd, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i eraill wneud bywoliaeth.

Ond nid pob gyrrwr sy'n cydweld, gyda rhai yn cefnogi'r cynlluniau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried y pryderon.

22 o systemau gwahanol

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nid yw'r gyfraith ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r twf mewn apiau ffonau symudol i archebu tacsis.

Maen nhw hefyd yn dweud bod tacsis a cheir sydd wedi eu llogi o flaen llaw yn gweithio y tu allan i'r ardal lle mae'r car wedi ei drwyddedu, yn aml trwy gael eu harchebu drwy apiau.

Cafodd y system bresennol ei datganoli yn ddiweddar, gan olygu bod y 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyda 22 o systemau gwahanol i drwyddedu gyrwyr.

Mae'n golygu bod safonau a phrisiau yn wahanol ym mhob sir, a does dim modd sicrhau bod gyrrwr sydd wedi ei ddisgyblu gan un awdurdod yn methu gweithio mewn ardal arall.

I geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar greu sefydliad cenedlaethol i drwyddedu gyrwyr ac i weithredu'r gyfraith.

Yn ôl undeb y GMB, dydy cynlluniau'r llywodraeth ddim yn atal y broblem o yrru dros ffiniau.

'Argyfwng'

Dywedodd un gyrrwr tacsi yn y brifddinas, Paul O'Hara, bod rhai gyrwyr yn dioddef o iselder oherwydd bod rhaid gweithio cymaint o oriau i wneud bywoliaeth.

"Mae 'na ormod o dacsis yng Nghaerdydd fel mae hi, a gyda'r holl yrwyr o'r tu allan yn dod mewn hefyd, mae 'na argyfwng yn y diwydiant."

Disgrifiad o’r llun,
Mae gyrwyr tacsis yn dioddef o iselder oherwydd llwyth gwaith, meddai Paul O'Hara

Gallai cynllun y llywodraeth wneud y broblem yn waeth, yn ôl Mr O'Hara: "Allwch chi weld gyrwyr o Ynys Môn yn cael trwydded yn union fel gyrrwr o Gaerdydd ac yn dod i weithio yng Nghaerdydd.

"Chi ddim yn debygol o gael llawer o yrwyr o Gaerdydd yn mynd i lefydd eraill oherwydd dydy'r gwaith ddim yna.

"Gewch chi bobl ar benwythnosau gemau rygbi rhyngwladol yn llifo mewn i'r farchnad ac yn gwneud hi'n waeth."

Mae caniatáu i yrwyr weithio yn rhywle yn rhoi mwy o ddewis i gwsmeriaid, meddai David James sy'n gyrru i Uber ac Ola.

"Nid dim ond y gyrwyr sy'n elwa, ond mae pawb yn elwa," meddai.

Disgrifiad o’r llun,
Mae John Wyn Pritchard yn dweud y byddai'n fwy teg pe bai prisiau i yrwyr tacsis yn gyson dros y wlad

Mae perchennog cwmni tacsi yng ngogledd Cymru'n dweud y byddai cael un drwydded i Gymru yn decach.

Dywedodd John Wyn Pritchard o AAA Taxis yng Nghaergybi bod "pris 'platio' yn lot mwy ar Ynys Môn nac yng Ngwynedd".

"Mi fyddai hi'n well petai 'platio' yn costio'r un faint i yrrwr tacsi yng Ngwynedd neu yn Ynys Môn. Mi fyddai hi'n fwy teg wedyn."

'Ystyried y mater'

"Nid oes llawer o fanylion" yn yr ymgynghoriad yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlC), a'r farn ymysg cynghorau yw mai nhw ydy'r awdurdodau mwyaf "priodol" i wneud y gwaith.

"Cydweithio rhwng asiantaethau lleol fel yr heddlu, y gwasanaeth trwyddedu a'r diwydiant tacsi ydy'r ffordd orau o greu awyrgylch cynaliadwy sy'n hyrwyddo diogelwch," meddai CLlC.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r bwriad oedd symud ymlaen mewn partneriaeth â chynghorau, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynlluniau yma ac rydym eisoes wedi nodi pryderon sydd wedi eu codi ynglŷn â gweithio ar draws ffiniau, a'r nifer o drwyddedau sy'n cael eu rhoi.

"Mi fyddwn ni'n ystyried y pwyntiau wrth symud ymlaen."