AC Plaid Cymru, Steffan Lewis, wedi marw yn 34 oed

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aled ap Dafydd sy'n edrych yn ôl ar yrfa wleidyddol Steffan Lewis

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis, wedi marw yn 34 oed.

Cafodd ei ethol i'r Cynulliad fel aelod dros Ddwyrain De Cymru yn 2016; yr aelod ieuengaf ar y pryd.

Cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn cyn Nadolig 2017, a chael gwybod ei fod wedi lledu i rannau eraill o'i gorff.

Yn wreiddiol o gartref dwyieithog yn ardal y Coed Duon, mae'n gadael gwraig, Shona, a mab ifanc, Celyn.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Colli Steffan yw'r ergyd waethaf bosib i'n teulu ni ac rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn rhannu ein galar.

"Roedd Steff yn ein hysbrydoli ni bob dydd. Roedd e'n graig i ni, yn angor ac yn fwy na hynny yn arwr i ni. Yn anad dim, roedd yn ŵr, tad, mab a brawd cariadus.

"Fe frwydrodd Steffan yn erbyn ei salwch gyda'r un dewder a phenderfyniad a oedd yn ei wleidyddiaeth, a hyd yn oed pan roedd e mewn poen ddifrifol, fe wnaeth e barhau i wasanaethau'r bobl roedd e wrth ei fodd yn eu cynrychioli.

"Fe wnawn ni sicrhau y bydd ei atgof e'n para am byth - yn ein cymuned, yn ein calonnau ac yn fwy na dim drwy ei fab, y crwtyn bach roedd e'n ei garu, Celyn.

"Wnaiff Cymru fyth anghofio am ei gyfraniad a'r ffaith ei fod wedi gwneud ei orau glas i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl."

'Colled enbyd'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod ei "gydymdeimlad dwysaf gyda theulu Steffan yn ystod y cyfnod trasig hwn".

"Roedd cariad mawr tuag at Steffan gan ei gyfeillion ym Mhlaid Cymru ac rydym mewn sioc a galar o glywed ein bod wedi colli ein seren ddisgleiriaf.

"Bydd yn cael ei gofio fel gwleidydd neilltuol o dalentog a gyflawnodd gymaint yn ystod ei gyfnod fel gwleidydd etholedig, cyfnod sydd wedi ei dorri yn fyr mewn amgylchiadau torcalonnus."

"Yr unig beth oedd yn hafal i'w allu meddyliol rhagorol oedd maint ei empathi - drwy gydol ei salwch fe barhaodd i flaenoriaethu lles pobl eraill drwy siarad yn agored am ei brofiadau personol anodd gan hefyd barhau i weithio dros ei genedl a'i etholwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Steffan Lewis yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yn 2015

Mewn teyrnged iddo dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod Steffan Lewis yn "un o wleidyddion mwyaf gweddus a galluog ei genhedlaeth".

"Mae fy meddyliau gyda'i wraig Shona a mab ifanc Celyn ar yr adeg hynod anodd hon."

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: "Ni allaf gofio Aelod Cynulliad arall a oedd mor falch â Steffan o gael ei ethol i'w senedd genedlaethol.

"Mae'r ffaith i'w gyfnod fel aelod brofi mor fyr yn golled enbyd i ni i gyd. Byddaf yn colli ei gyfeillgarwch a'i angerdd dros Gymru a'i blaid."

Ychwanegodd Ms Jones bod y baneri ar adeiladau'r Cynulliad wedi'u gostwng fel arwydd o barch.

Gwleidydd uchel ei barch

Roedd Steffan Lewis yn wleidydd ifanc oedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-aelodau yn y Cynulliad a thu hwnt.

Er gwaetha'r salwch, bu'n parhau i weithio fel AC dros ei etholaeth a llefarydd ei blaid ar Brexit.

Wrth siarad am ei fywyd a'i wleidyddiaeth ar raglen Radio Cymru Beti a'i Phobol, dywedodd fod ei genedlaetholdeb yn deillio o'i gred mewn tegwch i bawb.

"Dwi ddim yn meddwl fod y genedl wladwriaeth Brydeinig wedi ei sefydlu mewn ffordd lle mae cydraddoldeb economaidd, na gwleidyddol na chymdeithasol yn bosib," meddai.

Dywedodd fod ei brofiad fel Aelod Cynulliad yn rhannau o'r Cymoedd wedi bod yn frawychus wrth weld miloedd o bobl yn dibynnu ar fanciau bwyd.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Steffan y bachgen ysgol yn annerch cynhadledd Plaid Cymru yn 1997

Cafodd ei fagu yng Nghymoedd Gwent, gan fynychu Ysgol Gynradd Swffryd cyn symud i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn Abercarn ac yna i Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Gwnaeth y penderfyniad yn ifanc ei fod eisiau gyrfa wleidyddol ar ôl i'w dad fynd ag o i gyfarfod Plaid Cymru.

Daeth ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn naturiol, meddai, wedi ei fagu mewn cartref dwyieithog yn y Coed Duon lle'r oedd gwleidyddiaeth yn cael ei drafod ar yr aelwyd.

Dywedodd ar raglen Beti George: "Fi'n cofio Mam yn rhoi teipiadur i fi pan o'n i'n ifanc iawn a fi'n sgrifennu at Dafydd Wigley pan o'n i'n 11 mlwydd oed yn gofyn cwestiynau iddo fe.

"Fi ddim yn siŵr beth oedd y dyn post yn ei feddwl pan oedd e'n cael yr amlenni 'ma gyda'r House of Commons arnyn nhw drwy'r amser a siŵr o fod oedd Dafydd Wigley wedi cael lond bola arno fi'n sgwennu ato fe!"

Roedd yn annerch cynhadledd y blaid yn 14 oed a safodd mewn etholiad y tro cyntaf yn 2006, yn isetholiad Blaenau Gwent pan oedd yn 21.

Daeth yn drydydd, ond ysgogodd hynny iddo fynd i weithio mewn gwleidyddiaeth yn llawn amser, a dechreuodd weithio i Blaid Cymru yn y Cynulliad lle bu'n ysgrifennu areithiau Leanne Wood tra roedd hi'n arweinydd.

Yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd Brexit fo oedd y cyntaf i alw ar i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd gael eu cadw fel rhan o gyfraith Cymru ar ôl Brexit.

Y tu hwnt i'r Senedd, roedd Mr Lewis yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Celtic. Dywedodd ei fod wedi datblygu ei ddiddordeb yn y clwb ar ôl dod i ddysgu am hanes teulu ar ochr ei dad oedd wedi ffoi o Iwerddon yn ystod y Newyn Mawr.

Teulu

Roedd teulu yn bwysig iawn i Mr Lewis, yn enwedig wrth iddo frwydro yn erbyn ei salwch.

Dywedodd ei fod yn bwysig iddo fagu perthynas gyda'i fab, Celyn, sy'n dair oed.

"Mae'n rhoi cyd-destun i bopeth, pethau fel mynd i'r parc ar b'nawn dydd Sul," meddai ym mis Rhagfyr 2018. "Os fi'n llwyddo i wneud hwnna, mae hwnna'n uchafbwynt i'r wythnos.

"Y'n ni wedi datblygu bond pwysig iawn ac mae wedi bod yn bwysig i fi greu'r bond yna achos sa'i moyn iddo fe anghofio."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Steffan Lewis yn AC ers Mai 2016

Siaradodd ar sawl achlysur am ganser, ac am ei frwydr yn erbyn y salwch.

Dywedodd ei fod wedi teimlo yn obeithiol, yn flin ac yn ofnus ar ôl derbyn y diagnosis, a'i fod wedi crio sawl gwaith.

Ond mynnodd nad oedd am i bobl ei gofio am ei salwch.

"Dwi ddim yn mynd i fod jyst y Steffan Lewis sydd 'efo canser. Dwi'n mynd i fod yn Steffan Lewis y tad, Steffan Lewis y mab, Steffan Lewis y gŵr a Steffan Lewis y gwleidydd."

Mewn gyrfa wleidyddol oedd yn greulon o fyr, llwyddodd i gael effaith mawr ar wleidyddiaeth Cymru, yn enwedig trywydd Llywodraeth Cymru ar Brexit.