Ipswich Town yn arwyddo'r amddiffynnwr James Collins

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Collins 50 o gapiau dros Gymru

Mae cyn-amddiffynnwr canol Cymru, James Collins, wedi ymuno ag Ipswich Town ar gytundeb tan ddiwedd y tymor.

Mae Collins, 35 oed, wedi bod yn chwilio am glwb ers cael ei ryddhau gan West Ham United haf diwethaf.

Yn ystod ei yrfa mae Collins wedi chwarae 346 o weithiau i glybiau sy'n cynnwys Caerdydd, Aston Villa a West Ham yn ogystal â chwarae 50 o weithiau dros ei wlad.

Ar hyn o bryd mae Ipswich ar waelod y Bencampwriaeth, 10 pwynt o ddiogelwch.