Beth ydy iaith y corff?

Iaith y corff ydy cyfathrebu sy’n dod o symudiad neu ystum, yn enwedig mynegiant yr wyneb, ystumiau a lleoliad siaradwr a gwrandäwr mewn perthynas â’i gilydd. Gall hyn fod yn fodd o gyfleu’r neges ei hun neu gall ychwanegu haenau o ystyr at eiriau llafar.

Efallai dy fod wedi gweld iaith y corff yn cael ei alw’n gyfathrebu dieiriau. Os nad wyt ti’n siŵr pa mor bwerus y gall iaith y corff fod, meddylia pa mor hawdd ydy hi i gamddeall neges destun neu hyd yn oed alwad ffôn. Mae hyn oherwydd nad ydy’r gwrandäwr yn gweld mynegiant yr wyneb neu iaith y corff a fyddai’n cyfleu sut mae’r siaradwr yn teimlo.

Pam disgrifio iaith y corff?

Mae tair prif sefyllfa pan fydd hi’n bwysig i ti ddisgrifio iaith y corff:

  • nodiadau cyfarwyddwr - mae iaith y corff yn rhan bwysig o’r offer sydd gan y cyfarwyddwr i helpu actor i sicrhau’r perfformiad gorau
  • pan fydd actor am ysgrifennu am sut y defnyddiodd iaith y corff a pham mewn hunanwerthusiad
  • wrth ddadansoddi perfformiad, mae iaith y corff yn rhywbeth a ddylai gael sylw

Fyddai dim disgwyl i ti drafod pob symudiad neu ystum, ond yn hytrach sôn am unrhyw beth arwyddocaol a’i effaith a’i effeithiolrwydd yng nghyd-destun y perfformiad. Er enghraifft, sut roedd yr actor a oedd yn portreadu’r Arglwyddes Macbeth yn defnyddio iaith y corff i berswadio Macbeth i gyflawni llofruddiaeth?

Gwahanol fathau o iaith y corff

5 math gwahanol o fynegiant y corff: Goruchafiaeth, Ymostyngiad, Hapusrwydd, Tristwch, Poen meddwl