Y gwyddonydd, yr Athro Syr John Meurig Thomas, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Syr John Meurig ThomasFfynhonnell y llun, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r Athro Syr John Meurig Thomas wedi troi'n 88 oed ddydd Sul

Mae un o wyddonwyr amlycaf Cymru, yr Athro Syr John Meurig Thomas wedi marw yn 87 oed.

Roedd yn gyfarwyddwr ar y Sefydliad Brenhinol, dolen allanol rhwng 1986 a 1991 cyn dychwelyd i Brifysgol Caergrawnt ble fu'n Athro Emeritws Cemeg Cyflwr Solet, ac yn ddiweddarach yn Feistr ar Goleg Peterhouse.

Cafodd gannoedd o wobrau a chydnabyddiaethau, gan gynnwys enwi'r mwyn 'Meurigite' ar ei ôl.

Ym mis Hydref 2016, cafodd Medal Frenhinol y Gwyddorau - un o brif wobrau'r byd gwyddonol - am ei gyfraniad arloesol i gemeg catalytig.

Derbyniodd y wobr am ei gyfraniad i gatalyddion heterogenaidd un safle sydd wedi effeithio ar gemeg gwyrdd, technoleg lân a chynaliadwyedd.

Disgrifiad,

Aled Huw aeth i gyfarfod Syr John Meurig Thomas yng Nghaergrawnt yn 2016

Arloesi a phoblogeiddio gwyddoniaeth

Yn wreiddiol o Lanelli, daeth Syr John Meurig Thomas yn Athro ar Gemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn 2009, i nodi 125 mlynedd ers ei sefydlu, derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor, lle cafodd y cyfle cyntaf i ddysgu ac i ymchwilio yn yr Ysgol Gemeg.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Huw Edwards

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Huw Edwards

Bu Syr John yn arloesi gyda'r defnydd o dechnolegau fel microsgopeg electron a diffreithiant niwtronau i 'weld' sut mae nodweddion miniscwl arwyneb y catalyddion yn effeithio ar adweithiau cemegol.

Bu hefyd yn bennaeth yr Adran Gemeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn is-ddirprwy ganghellor Prifysgol Cymru, a thua diwedd ei yrfa bu'n Athro Nodedig Er Anrhydedd mewn Cemeg Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd ei urddo'n farchog yn 1991 am ei wasanaeth i gemeg a phoblogeiddio gwyddoniaeth.

Dywedodd Meistr presennol Coleg Peterhouse, Caergrawnt, Bridget Kendall bod Syr John yn gemegydd disglair ac "yn aelod gweithgar o'n cymuned... tan yn ddiweddar iawn, er i'w iechyd ddirywio".

"Cyn belled â mis yn ôl, roedd yn darlithio mewn digwyddiad ffurfiol ar-lein yn Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain, gan drafod ei lyfr diweddar, Architects of Structural Biology," meddai.

"Mi wn y byddem ni oll yn ei golli ac mae ein meddyliau gyda'i weddw, Jehane, a gweddill ei deulu."

Ychwanegodd bod bwriad i gynnal digwyddiad coffa "i ddathlu ei fywyd a'i orchestion pan fydd yr amodau'n caniatáu hynny".