Llandysul:
Ar ôl y llifogydd

Ym mis Hydref chwythodd Storm Callum ar draws rhannau helaeth o Gymru gan adael dinistr a llanast ar ei hôl. Un o’r ardaloedd i ddioddef waethaf oedd Llandysul yng Ngheredigion.

Torrodd yr afon Teifi ei glannau a llifo drwy’r pentref gan ddinistrio tai a busnesau yn y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd.

Ond beth sy’n digwydd ar ôl i’r dŵr gilio? A sut mae’r bobl leol yn ymdopi gyda’r llanast sydd ar ôl, yn enwedig gan fod nifer heb yswiriant? Dyma’u stori nhw.

Y Ganolfan Ganŵio

Mae Canolfan Ganŵio Rhwyfwyr Llandysul ar lannau’r afon Teifi, ym Mhont Tyweli ger Llandysul. Roedd Paul Taylor yn gweithio yno pan darodd Storm Callum.

“Llifodd y dŵr yn syth drwy ein adeiladau ac ar draws ein maes parcio. Roedd tua 10 troedfedd o ddŵr yn ein sied gychod, tua thair troedfedd yn ein swyddfa a thua phump troedfedd yn y bunkhouse.

Y foment waethaf?

“Gweld ein sied gychod a’r boat rack sy’n gallu dal 50 cwch yn cael ei falu yn erbyn y bont. Roedd yn dorcalonnus i weld ein trailer gyda ein marquee ynddo’n cael ei olchi i lawr yr afon.

Be’ nesaf?

“Roedd yr wythnos wedi’r llifogydd yn anhygoel. Daeth y gymuned leol a’r gymuned rhwyfwyr at ei gilydd. Ar ôl y sioc gychwynnol o weld y dinistr llwyr, roedd gweld y bobl hyn i gyd eisiau helpu yn wych.

“Roedd pobl yn glanhau ein lloriau, ein swyddfeydd, ein kit i gyd – roedd dŵr carthion ar bopeth. Bu'n rhaid i ni dynnu waliau a symud carafán oedd chwe throedfedd i fyny yn yr awyr, wedi ei chario gan y llifogydd. Dw i’n dod o ddwyrain Llundain a dw i’n amau’n fawr a fyddai’r un ymdeimlad o gymuned yn Llundain.

“Bydd hi’n fisoedd cyn i ni agor fel canolfan preswyl eto ond rydym wedi ailddechrau sesiynau y clwb. Rydym wedi cael lot o gyfraniadau caredig sy’n mynd i'n helpu ni i ailadeiladu ond bydd hi’n flynyddoedd cyn i ni ailadeiladu’n iawn.

Colled ariannol

“Fel busnes, allwn ni ddim fforddio cost yr yswiriant llifogydd. Mae’r llifogydd ‘ma wedi achosi tua £200,000 o ddifrod i’r clwb.

“Yr hyn sy’n torri fy nghalon yw fod cartrefi ac eiddo pobl wedi eu dinistrio. Gallwn ni beintio a phrynu cychod newydd, ond y bobl sy' wedi colli eiddo ac atgofion sy’n talu’r pris go iawn.

“Mae’n dorcalonnus i weld pentyrrau o sbwriel. Os wyt ti’n rhwyfo lawr yr afon, rwyt ti’n gweld yr effaith amgylcheddol a’r effaith ar fywyd gwyllt.

‘Ysbryd cymunedol’

“Rydyn ni'n teimlo'n bositif oherwydd yr ysbryd cymunedol. Yn ein clwb ni, mae 'na deimlad o obaith. Dydyn ni ddim wedi newid rhyw lawer am 20 mlynedd. Mae hyn fel dechrau eto i ni – beth allwn ni newid a beth allwn ni wella?”

Heb gartref dros y Nadolig

Cafodd cartref Paul Phillips ei ddinistrio gan y llifogydd ac mae e a’i deulu yn byw mewn gwesty dros dro.

Dywedodd Paul am y diwrnod pan lifodd yr afon mewn i’r tŷ: “Aeth y wal oedd yn dal Afon Teifi yn ôl, ac yna roedd yr afon yn llifo i lawr yr heol. O fewn hanner awr roedd dwy droedfedd a hanner o ddŵr yn y tŷ. Roedd yn llifo’n rhy gyflym i wneud unrhyw beth i'w atal.

Y foment waethaf?

“O’n i’n iawn gyda cholli’r dodrefn a’r stwff yn y tŷ. Ond cafodd bag o waith ysgol y plant ei ddinistrio. Dyma pryd wnaeth e fy nharo i fod pethau yma na allwn ni eu cael yn ôl. Dyna’r foment waethaf a gorffes i gerdded mas o’r tŷ.

“Mae pawb wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi cael gwirfoddolwyr yn galw drwy’r wythnos. Gwnaeth grŵp dynnu’r carpedi a’r dodrefn a sortio drwy ein pethau. Mae’r gymuned yma wedi bod yn anhygoel. Mae gennym depot ar gyfer rhoddion o ddodrefn a nwyddau eraill.

“Doedd dim yswiriant llifogydd gyda ni. Mae pawb yn yr un cwch – o’r 15 teulu dw i’n eu hadnabod sy' wedi eu heffeithio, tua thri oedd ag yswiriant llifogydd. Roedd naill ai’n rhy ddrud neu gwrthododd y cwmni yswiriant roi cover i ni am lifogydd.

‘Ailwampio ein cartref’

“Ry' ni wedi gwagio’r llawr isaf ac rydym yn bwriadu gwagio’r tŷ i gyd ac ailaddurno. Ry' ni’n mynd i ailwampio ein cartref. Mae’r cyngor yn dweud y bydd y tŷ yn wlyb am rhwng pedwar a saith mis. Fyddwn ni ddim yn ôl yn ein cartref eleni.

“Mae pawb yn edrych ar fisoedd yn hytrach nag wythnosau cyn symud yn ôl.

“Ry' ni’n teimlo’n reit bositif ar hyn o bryd, er ein bod wedi cael rhai munudau isel.”

Llifogydd 1987

Mae Linda Thomas wedi byw yn Llandysul ers 38 mlynedd ac yn cofio llifogydd 1987.

“Mae rhan fwya’ rownd fan hyn heb yswiriant ond ni’n talu premiums uchel. Cyn gynted â ti’n dweud y côd post, dyw’r cwmnïau yswiriant ddim eisiau gwybod.

“Bydd hi’n bedwar mis erbyn i’r adeiladwyr orffen. O’n i moyn addurno, ond ddim fel hyn!

“Yn 1987 gathon ni lifogydd ond roedd rheina’n rhai bach. Roedd y tro yma’n wahanol iawn.”

‘Y dinistr llwyr’

Mae Clare Price yn gyfrifol am dudalen Real Llandysul and Surrounding News ar Facebook ac yn helpu i gydlynu’r ymgyrch i glirio’r llanast.

“O’n i’n disgwyl iddo fod yn wael ond doeddwn i ddim yn gallu credu’r dinistr llwyr.

“Helpais un pâr ac roedd rhyw dair troedfedd o ddŵr o ffrynt y tŷ i gefn y tŷ. Roedd y gegin wedi ei dinistrio’n llwyr, a'r oergell yn amlwg wedi bod yn nofio yn y dŵr.

“Mae’r rhan fwyaf heb yswiriant llifogydd felly gofynnon ni ar Facebook am roddion o ddodrefn. Ro’n i ar ddihun tan ddau o’r gloch y bore oherwydd yr holl negeseuon gan bobl oedd eisiau helpu.

“Mae’n cymryd misoedd i’r tai sychu mas. Mae’r grŵp Facebook yn helpu pobl ac yn dod â’r gymuned ynghyd. Mae lot o ddodrefn, soffas ac oergellau wedi eu rhoi. Mae 'na wirfoddolwyr yn casglu ac yn dosbarthu rhoddion.

"Mae ceginau lot o bobl wedi eu dinistrio felly mae pobl wedi bod yn cynnig ceginau ail-law. Mae pobl hefyd yn cynnig helpu glanhau ac yn rhoi bwyd. Mae’n syfrdanol faint o bobl sy' wedi eu cyffwrdd gan y sefyllfa.

“Dyna’r natur ddynol – dw i methu gweld sut allwch chi beidio helpu.”