Gwahardd codi ffioedd 'diangen' ar denantiaid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
tai teras
Disgrifiad o’r llun,
Gallai'r ddeddfwriaeth arbed bron £200 i denantiaid fesul tenantiaeth

Bydd cyfraith newydd i wahardd ffioedd gosod eiddo diangen yng Nghymru yn dod i rym ar 1 Medi eleni, os fydd yn derbyn cydsyniad brenhinol.

Mae'r ddeddf newydd yn ei gwneud yn drosedd i godi unrhyw dâl ar denant nad yw wedi'i bennu'n "daliad a ganiateir" o dan y ddeddfwriaeth.

Mae hynny'n golygu na fydd tâl i denantiaid am bethau fel ymweliadau yng nghwmni rhywun, derbyn rhestr eiddo, llofnodi contract, neu adnewyddu tenantiaeth. 

Yr amcangyfrif yw y bydd hyn yn arbed bron i £200 i denantiaid fesul tenantiaeth.

Fe fydd yn dal yn gyfreithlon i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu ddiffygdaliadau yn unig.

Ond bydd y ddeddf yn gosod uchafswm ar flaendaliadau cadw a delir i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent, ac yn creu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon.

Bydd hefyd yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni am weld y ddeddfwriaeth bwysig hon yn dod i rym cyn gynted ag sy'n bosibl, ac yn enwedig cyn i'r myfyrwyr ddechrau eu tymor yn yr hydref mewn prifysgolion yng Nghymru.

"Rydyn ni eisoes wedi ysgrifennu i sefydliadau sydd â diddordeb i'w hysbysu am hyn, ac rydyn ni'n awyddus bod tenantiaid yng Nghymru yn ymwybodol o'u hawliau o dan y Ddeddf."