Yn wreiddiol o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae Rebecca sy'n 24 oed, yn athrawes yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.
Dywedodd ei bod wedi ei hysbrydoli i ddysgu’r iaith tra yn y chweched
dosbarth a chlywed athrawon yn siarad Cymraeg.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, dywedodd: "Dwi'n cofio bod yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd
Saesneg, a jest y ffordd roedd yr athrawon yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd o ni
yn meddwl dwi moyn siarad â rhywun yn Gymraeg.
"Mae'n unigryw i Gymru ond dyle ni siarad Cymraeg achos 'dy ni'n
dod o Gymru a dyle mwy o bobl siarad Cymraeg," meddai.
Mae'r cyrchwyr yn paratoi i'w hebrwng i'r llwyfan.
BBCCopyright: BBC
'Anodd dod i benderfyniad'
Eisteddfod yr Urdd
Mae'r fedal eleni'n cael ei rhoi gan Barciau Cenedlaethol Cymru.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi i'r unigolyn sy ym marn y beirniad wedi cyrraedd y brig wrth ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol neu goleg ac yn gymdeithasol.
Dywedodd y beirniaid eleni, Elin Williams a Isaias Grandis ei bod wedi bod "yn anodd iawn dod i benderfyniad".
Pedwar yn cystadlu
Eisteddfod yr Urdd
I'ch atgoffa, tair merch ac un bachgen yn cystadlu am y fedal eleni - Alys Williams, Jessica Harvey, Jonas Rajan a Rebecca Morgan.
Dechrau seremoni Medal y Dysgwyr
Eisteddfod yr Urdd
Mae seremoni Medal y Dysgwyr wedi dechrau.
Rachel Jones yw Meistr y Ddefod.
Merch fferm o Lanafan yw Rachel, a'r Gymraeg yn ail iaith iddi.
Methu dod o hyd i ganlyniad?
Eisteddfod yr Urdd
Mae diwrnod arall o gystadlu brwd yn dirwyn i ben.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan, a dyma restr o'r canlyniadau hyd yma.
Mae prif swyddfa CFfI Cymru yng nghanol Maes y Sioe, ond er bod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cael ei chynnal ar yr union safle eleni, dyw canolfan CFfI Cymru “ddim ar agor” i’r cyhoedd yr wythnos hon.
Cyfle i holi'r pedwar sy'n mynd am Fedal y Dysgwyr
BBC Cymru Fyw
Prif seremoni ar ail ddiwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd fydd Medal Y Dysgwyr, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y pnawn.
Mae tair merch ac un bachgen yn cystadlu am y fedal eleni, Alys Williams, Jessica Harvey, Jonas Rajan a Rebecca Morgan.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
A dyna'r cyfan gan Lif Byw arbennig y 'Steddfod am ddiwrnod arall.
Llongyfarchiadau mawr i Rebecca ar ennill Medal y Dysgwyr, ac i'r holl gystadluewyr yn ystod y dydd.
Byddwn yn ôl am ragor o gystadlu a digwyddiadau o'r maes yfory.
Bryd hynny, y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd.
Tan hynny, da bo chi.
Llongyfarchiadau i Rebecca
S4C
Cefndir Rebecca
Yn wreiddiol o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae Rebecca sy'n 24 oed, yn athrawes yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.
Dywedodd ei bod wedi ei hysbrydoli i ddysgu’r iaith tra yn y chweched dosbarth a chlywed athrawon yn siarad Cymraeg.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, dywedodd: "Dwi'n cofio bod yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd Saesneg, a jest y ffordd roedd yr athrawon yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd o ni yn meddwl dwi moyn siarad â rhywun yn Gymraeg.
"Mae'n unigryw i Gymru ond dyle ni siarad Cymraeg achos 'dy ni'n dod o Gymru a dyle mwy o bobl siarad Cymraeg," meddai.
Rebecca Morgan yw enillydd Medal y Dysgwyr
Rebecca Morgan yw enillydd Medal y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed 2018.
Mae'r cyrchwyr yn paratoi i'w hebrwng i'r llwyfan.
'Anodd dod i benderfyniad'
Eisteddfod yr Urdd
Mae'r fedal eleni'n cael ei rhoi gan Barciau Cenedlaethol Cymru.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi i'r unigolyn sy ym marn y beirniad wedi cyrraedd y brig wrth ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol neu goleg ac yn gymdeithasol.
Dywedodd y beirniaid eleni, Elin Williams a Isaias Grandis ei bod wedi bod "yn anodd iawn dod i benderfyniad".
Pedwar yn cystadlu
Eisteddfod yr Urdd
I'ch atgoffa, tair merch ac un bachgen yn cystadlu am y fedal eleni - Alys Williams, Jessica Harvey, Jonas Rajan a Rebecca Morgan.
Dechrau seremoni Medal y Dysgwyr
Eisteddfod yr Urdd
Mae seremoni Medal y Dysgwyr wedi dechrau.
Rachel Jones yw Meistr y Ddefod.
Merch fferm o Lanafan yw Rachel, a'r Gymraeg yn ail iaith iddi.
Methu dod o hyd i ganlyniad?
Eisteddfod yr Urdd
Mae diwrnod arall o gystadlu brwd yn dirwyn i ben.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan, a dyma restr o'r canlyniadau hyd yma.
Anfarwoli Mei Gwynedd mewn cartŵn
BBC Radio Cymru
'Y cystadlu sy'n cyfri'
Twitter
Drysau pencadlys CFfI Cymru ynghau yn yr Eisteddfod
Golwg 360
Mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 eu bod yn difaru cau eu pencadlys ar Faes y Sioe yn Llanelwedd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Mae prif swyddfa CFfI Cymru yng nghanol Maes y Sioe, ond er bod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cael ei chynnal ar yr union safle eleni, dyw canolfan CFfI Cymru “ddim ar agor” i’r cyhoedd yr wythnos hon.
Hanner awr i fynd tan y seremoni...
Eisteddfod yr Urdd
Canmoliaeth i'r gwaith celf...
Twitter
Yr artist Siôn Tomos Owen wedi ei blesio a'r gweithiau Celf a Chrefft eleni.
Ma' Mr Phormula yn y tŷ
Twitter
Bardd Plant Cymru 'wedi ei hysbrydoli' gan dalent plant
BBC Cymru Fyw
Mae Casia Wiliam wedi bod ar lwyfan y pafiliwn yn sôn am ei blwyddyn gyntaf yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru.
Dywedodd ei bod wedi ei llenwi â gobaith a diolch, a'i bod wedi ei hysbrydoli a'i llonni gan y dalent a'r plant annwyl sydd yng Nghymru.
Dangosodd enghreifftiau o'r gweithdai y mae hi wedi eu cynnal a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at ei hail flwyddyn.
Dewch i'r pafiliwn heno!
Eisteddfod yr Urdd
Gwyliwch eich chrysanthemums yn y Gwyddonle!
Prifysgol Abertawe
Cyfle i holi'r pedwar sy'n mynd am Fedal y Dysgwyr
BBC Cymru Fyw
Prif seremoni ar ail ddiwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd fydd Medal Y Dysgwyr, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y pnawn.
Mae tair merch ac un bachgen yn cystadlu am y fedal eleni, Alys Williams, Jessica Harvey, Jonas Rajan a Rebecca Morgan.
Y gohebydd Arwel Evans gafodd gyfle i'w holi ar ran BBC Cymru Fyw.
Atgofion melys o Urdd 2017
Eisteddfod yr Urdd
Mae'r blynyddoedd yn hedfan!
'Gwell Cymraeg amherffaith na dim Cymraeg'
Golwg 360
“Mae’n well siarad Cymraeg amherffaith, na pheidio’i siarad o gwbwl,” meddai Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed wrth Golwg 360.
Mae Steve Hughson yn Brif Weithredwr ar Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac yn ffigwr blaenllaw ym myd amaeth yng Nghymru.
Yn ogystal, mae e’n ddysgwr, sy’n anelu at feistroli’r iaith.