Enwi cerbyd trên Yr Wyddfa ar ôl y Fonesig Shirley Bassey

  • Cyhoeddwyd
Shirley BasseyFfynhonnell y llun, Rheilffordd Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Shirley Bassey yn bresennol ar daith gyntaf y cerbyd i fyny'r Wyddfa

Mae Rheilffordd Yr Wyddfa wedi enwi cerbyd trên ar ôl y gantores y Fonesig Shirley Bassey.

Roedd y Fonesig Bassey, gafodd ei geni yng Nghaerdydd yn 1937, yn bresennol ar daith gyntaf y cerbyd i fyny mynydd uchaf Cymru.

Dyma'r pedwerydd person i gael cydnabyddiaeth gan y rheilffordd, gyda cherbydau hefyd wedi'u henwi ar ôl Katherine Jenkins, Syr Bryn Terfel a Syr Dave Brailsford.

Dywedodd y Fonesig Bassey: "Dwi mor ddiolchgar i Reilffordd Yr Wyddfa am yr anrhydedd unigryw yma.

"Dwi'n falch iawn o fy ngwreiddiau Cymreig ac mae hyn yn fy nghadw i'n gysylltiedig gyda Chymru ac un o'i lleoliadau mwyaf eiconig.

"Dydw i erioed wedi bod yn y rhan yma o Gymru o'r blaen - mae hi'n brydferth yma, ac mae'r cerbyd yn hyfryd."

Dywedodd Vince Hughes o Reilffordd Yr Wyddfa: "Mae enwi'r cerbydau yn cydnabod cyfraniad arbennig unigolion yn eu maes, ac roeddem eisiau cadw'r gorau yn olaf."