Taith feicio i gofio'r anturiwr a cherddor Iwan Huws
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfeillion cerddwr a cherddor fu farw yn gynharach eleni yn beicio o ogledd Cymru i Iwerddon i gasglu arian er cof amdano.
Bu farw Iwan Huws, 34 o Benygroes, Gwynedd ym mis Ionawr ar ôl llithro ar fynydd Tryfan.
Er cof amdano, mae ffrindiau a theulu wedi ffurfio elusen i godi arian at achosion oedd yn agos at ei galon.
Drwy lansio Cronfa Iwan Huws bydd rhai o'r cyfeillion yn beicio o Benygroes i Galway rhwng 28-30 Mehefin, siwrne a wnaeth Mr Huws a rhai o'r un ffrindiau yn 2010.
'Anturiwr angerddol'
Roedd Mr Huws, cerddor gyda'r band Yucatan, yn angerddol am ei famiaith, a dywedodd yr elusen y byddai beicio o un o gadarn leoedd y Gymraeg i'r Gaeltacht yn ffordd addas i roi cychwyn ar ymdrechion yr elusen.
Dywedodd partner Mr Huws, Elin Gwyn, ei fod yn anturiwr oedd yn angerddol am bopeth yr oedd yn ei wneud.
"Cerddodd lwybr yr Inca i Machu Picchu, llwybr yr Annapurna yn yr Himalayas, a beicio o Amsterdam i Basel gyda phabell ar ei gefn.
"Treuliom flwyddyn yn teithio'r byd gyda'n gilydd, a byddaf wastad yn ddiolchgar am ein hamser gyda'n gilydd."
Dywedodd Ms Gwyn ei bod hi'n deyrnged i Mr Huws fod cymaint o'i ffrindiau yn ail-wneud y daith.
"Rwyf mor ddiolchgar iddyn nhw am eu holl godi arian ac am eu gwaith caled wrth sefydlu elusen yn ei enw.
"Roedd yn ffodus i gael grŵp mor anhygoel o ffrindiau, ac rwy'n lwcus iawn i gael eu cymorth a'u cefnogaeth wrth i ni alaru amdano.
"Gobeithio y bydd y gronfa yn galluogi eraill i gyflawni rhai o'r pethau yr oedd Iwan yn angerddol amdanynt."
Bydd yr arian a ddaw i'r elusen yn talu am gofeb i Mr Huws ac achosion eraill yr oedd yn angerddol amdanynt:
Prynu offerynnau cerddorol newydd i Ysgol Dyffryn Nantlle;
Clwb Pêl-droed Mountain Rangers;
Partneriaeth Awyr Agored;
Mynyddoedd Pawb;
WATERisLIFE;
Volunteer Society Nepal.
Bydd y 13 ffrind yn cyrraedd Galway ar 30 Mehefin, fyddai wedi bod yn ben-blwydd Mr Huws yn 35 oed.
Yno bydd y grŵp yn cyfarfod Ms Gwyn ac aelodau o'i deulu, cyn teithio i ddathliad ar gyfer ei ben-blwydd.
Mae modd dilyn y daith - yn cynnwys lleoliad GPS amser-real yn ystod y daith - ar dudalen Facebook, dolen allanol yr elusen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018