Etholiad Senedd Cymru: Be' ydy datganoli?

Mae etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar 6 Mai, ond beth yn union mae hynny'n ei olygu?

Ydych chi'n poeni am bleidleisio? Ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng San Steffan a'r Senedd?

Mae datganoli yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gwneud penderfyniadau mewn nifer o feysydd, fel addysg, iechyd ac amaeth.

I wneud synnwyr o ddatganoli, a pherthynas hynny â'r etholiad fis Mai, gwyliwch hwn!

Mae canllaw syml i'r etholiad ar gael yma, ac er mwyn eich helpu i benderfynu dros bwy yr hoffech chi bleidleisio, defnyddiwch y canllaw polisi i weld beth yw safbwyntiau'r pleidiau ar y materion pwysig.