Oriel luniau: "Fasa ti’m yn coelio faint dwi wedi methu’r band"

  • Cyhoeddwyd
Trwmpedwyr yn chwerthin

Mewn 185 o flynyddoedd, siawns na chafodd Seindorf Arian Deiniolen erioed ymarfer fel hyn o'r blaen...

Yn iard yr ysgol leol, 3m ar wahân, pawb i olchi dwylo cyn ymarfer, a'r paratoadau yn dechrau awr a hanner o flaen llaw.

Ond ar ôl i'r band fethu dod at ei gilydd ers dechrau'r cyfnod clo chwe mis yn ôl, roedd yna hen edrych ymlaen. Ac yng nghysgod chwarel Dinorwig, daeth rhai o'r pentrefwyr allan i fwynhau cyngerdd am ddim hefyd.

Awr a hanner cyn yr ymarfer, ac mae'n rhaid cludo rhai o'r offerynnau a chyfarpar o'r cwt band i'r ysgol yng nghanol y pentref.

Rhaid i'r aelodau band gadw 3m ar wahân tra'n chwarae. Yn ôl y cadeirydd Dylan Huw Jones, heb arweiniad pendant gan y Llywodraeth fe benderfynodd y band greu asesiad risg er mwyn cynnal ymarfer yn ddiogel tu allan: "Mae chwe mis wedi mynd heb ymarfer, ac am ba hyd allwn ni gadw cymdeithas i fynd heb unrhywbeth yn digwydd?

"Mae pobl yn gallu drifftio i ffwrdd ar ôl cyfnod."

Er mwyn cadw'n ddiogel a chael digon o le roedd y band yn ymarfer yn iard Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen.

Mae ysgrifennydd y band Meirion Jones wedi bod gyda'r seindorf ers 1960: "Pan wnaeth Lois, yr arweinydd, ffonio a dweud ei bod hi eisiau cynnal ymarfer roeddwn i wrth fy modd. Mae 'na hiraeth wedi bod am y band."

Mae angen gwynt ar unrhyw fand pres, ond rhaid gwneud yn siŵr bod y gerddoriaeth yn aros yn ei lle tra'n chwarae tu allan.

Y chwaraewyr yn cyrraedd - ond rhaid golchi'r dwylo cyn mynd dim pellach.

Dafydd 'Twins' Evans, sydd yn y band ers 63 mlynedd, yn aros yn eiddgar i'w gyd-aelodau gyrraedd: "Dwi wedi bod ar bigau'r drain drwy'r dydd yn edrych ymlaen. Fasa ti'm yn coelio faint dwi wedi methu'r band, mae o fel taswn i wedi colli fy mraich dde.

"Mae rhywun yn eistedd yn y tŷ heb neb i siarad efo nhw heblaw y ci, er bod y plant yn dda iawn yn draw bob tro maen nhw'n gallu. Dwi wedi bod reit ddigalon heb y band a bod yn onest, mae o wedi dweud arna i."

Ydych chi'n clywed yn y cefn? "'Da ni wedi gwneud fideos a pethau dros Zoom yn ystod y cyfnod, sydd wedi bod yn wahanol, ond tydi o dim 'run fath â gweld pawb a chyd-chwarae," meddai Lois Eifion, yr arweinydd.

"'Da ni wedi arfer chwarae tu allan mewn carnifal neu mynd o gwmpas y pentref yn chwarae carolau, ond mae hwn yn wahanol. 'Da ni erioed wedi bod mor bell o'n gilydd o'r blaen."

Barod? Yr arweinydd Lois Eifion yn cadw at reolau'r asesiad risg.

Un o'r pentrefwyr ifanc yn manteisio ar gyngerdd am ddim.

"Mae'n bwysig o ran cymdeithas y band i gael cyfle ddod at ein gilydd, malu awyr a chael hwyl," meddai cadeirydd y band Dylan Huw Jones. "Mae ganddo ni sawl haen oedran, rhai dal yn yr ysgol ac yn mynd fyny i'r rhai hŷn - felly mae yna falu awyr a hwyl reit ar draws y cenedlaethau."

"I rywun fel fi, yn byw ar ben fy hun wedi colli fy ngwraig, mae cymdeithas y band yn bwysig. Roedd o'n wefr i fi weld y gymdeithas a ffrindiau go iawn eto," meddai Dafydd 'Twins'.

"Mae heno wedi bod yn wych. 'Da ni'n meddwl gwneud yr un peth wythnos nesa, ond mae'n dibynnu ar y tywydd. Roedd yn sŵn da i feddwl bod y band tu allan a heb chwarae efo'i gilydd ers chwe mis." Meirion Jones, ysgrifennydd.

Hefyd o ddiddordeb: