Charli Britton, drymiwr Edward H. Dafis, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Charli BrittonFfynhonnell y llun, Canolfan Gerdd William Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Charli yn "gymeriad cynnes a doniol" yn ôl ei ffrind Cleif Harpwood

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Charli Britton, drymiwr y band Edward H. Dafis, fu farw'n 68 oed.

Cafodd ei fagu yng Nghaerdydd a chafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Rhydfelen, cyn mynd ymlaen i astudio graffeg yng Ngholeg Ealing yn Llundain.

Roedd yn un o bedwar aelod gwreiddiol Edward H. Dafis, ynghyd â Hefin Elis, John Griffiths a Dewi Pws, cyn i Cleif Harpwood ymuno tua chwe mis yn ddiweddarach.

Yn ogystal â bod yn ddrymiwr, Charli Britton ddyluniodd gloriau albym y band, fel yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Yn Erbyn y Ffactore a 'Sneb yn Becso Dam.

'Cymeriad cynnes a doniol'

Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde - Charli Britton, Hefin Elis, Dewi Pws, John Griffiths a Cleif Harpwood

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Cleif Harpwood fod colli Charli Britton fel colli brawd: "Roedden ni'n nabod ein gilydd ers dros hanner canrif, ac yn yr ysgol yn Rhydfelen gyda'n gilydd.

"Roedd e'n ffrind arbennig. Dwi'n cofio ei weld e'n drymio gyntaf mewn eisteddfod yn yr ysgol. Drwm snêr oedd ei un cyntaf, gyda hi-hat - cit oedd yn cael ei farchnata gan y Beatles."

Roedd yn teithio o Ealing yn gyson i berfformio gyda'r band - prawf, yn ôl Harpwood, o'i ymroddiad i gerddoriaeth Gymraeg.

"Roedd e'n gymeriad cynnes a doniol, a phan roedd e a Pws gyda'i gilydd, ro'n nhw nyts! Roedd ganddo hiwmor unigryw a ffraeth iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Charli Britton hefyd gyda bandiau a pherfformwyr fel Ac Eraill, Hergest a Tecwyn Ifan

Nid gydag Edward H. Dafis yn unig y perfformiodd Charli. Roedd yn drymio i fandiau a pherfformwyr fel Ac Eraill, Hergest a Tecwyn Ifan, ac fe weithiodd ar nifer o gyfresi teledu cerddorol.

"Mae e wedi cyfrannu'n ddi-bendraw i ddiwylliant cyfoes," medd Cleif Harpwood. "Os edrychwch chi ar recordiau cyfnod cynnar cwmni Sain, byddwch chi'n siŵr o weld ei enw'n gyfrannydd fel cerddor ar lawer ohonyn nhw.

"Mae'r nefoedd wedi ennill adran rythm heb ei ail yn Charli. Fe fuodd yn was ffyddlon i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Roedd ei ymroddiad yn rhyfeddol.

"Rydyn ni'n dueddol o anghofio pobl fel Charli... Roedd e yn y bac lein fel petai - y rheng ôl - ond fe oedd curiad calon ein cerddoriaeth ni."

'Drymiwr heb ei ail'

Dywedodd ei gyd-gerddor, Dewi Pws, fod Charli yn "ddrymiwr heb ei ail".

"Roedd John a Hef a finnau wedi sefydlu'r band ac roedden ni angen drymiwr.

"Roeddwn i'n amheus iawn pwy oedd Charli Britton... Ond ar ôl yr ymarfer cyntaf, roeddwn i'n gwybod fod o'n ddigon loony i fod yn y band," meddai.

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Clawr albwm Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw, wedi'i ddylunio gan Charli

"Roedd o'n manic, ges i flynyddoedd o chwerthin a tynnu coes efo fo. Doedd Charli a fi methu bod yn nghwmni ein gilydd.

"Ond y tu ôl i'r miri a'r chwerthin, roedd o'n gydwybodol iawn. Roedd o'n ddrymiwr heb ei ail.

"Roedd e'n gwneud pethe weird. Ar y trac Hi Yw, mae 'na offeryn rhythm sy'n gwneud sŵn crafu.

"Enw'r offeryn yw güiro ond doedd dim un gyda ni felly be nath Charli oedd ffeindio hoover yn y stiwdio a crafu ochr yr hoover!

"Bydd yn golled mawr i'r teulu, bandiau a rock 'n' roll Cymraeg."