Mei Jones: 'Perfformiwr egnïol ac awdur dyfeisgar'

  • Cyhoeddwyd
Mei JonesFfynhonnell y llun, S4C/Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mei Jones fwyaf adnabyddus am ei ran fel Wali Tomos yn C'mon Midffîld

"Bydda i'n cofio Mei Jones fel oedd o yn ei anterth, fel perfformiwr egnïol ar lwyfan ac ar sgrin. Roedd o'n actor amryddawn iawn, iawn, yn gallu gwneud comedi a rhannau mwy difrifol, ond yn bennaf mae'n debyg, roedd o'n awdur ac yn sgwennwr," medd y cynhyrchydd, awdur a'r cyfarwyddwr, Alun Ffred Jones.

Ers iddo farw ddiwedd yr wythnos yn 68 oed mae llu o deyrngedau wedi eu rhoi i'r actor a'r awdur, Mei Jones.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei ran fel Wali Tomos yng nghyfresi teledu C'mon Midffîld.

Wrth gael ei holi gan Dewi Llwyd fore Sul ychwanegodd Alun Ffred Jones: "Mi ddechreuon ni sgwennu efo'n gilydd tua '78 pan o'n i yn Yr Wyddgrug.

"Fuon ni'n sgwennu rhyw bytiau a sgwennon ni sioe Theatr Cymru i ysgolion, ac wedyn cychwyn ar Midffîld.

"Roedd o wedi cael coleg da efo Theatr Bara Caws - yn y fan honno y dysgodd o lawer iawn am ei grefft fel ysgrifennwr."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd C'mon Midffîld fel cyfres radio - gyda Wali Tomos ac Arthur Picton yn ganolo i'r cyfan

"Mi gymrodd hi rai blynyddoedd cyn i'r BBC feddwl bod dim byd ynddi [Midffîld]. Elwyn Jones ddaru gomisiynu'r gyfres ond roedden ni wedi ysgrifennu'r gyfres gynta'.

"Gawson ni dair gyfres ar y radio, ac yn fanno y gwelais i Mei ar ei orau, yn llawn dyfeisgarwch wrth sgwennu, bob amser yn chwilio am y tro yn y gynffon a gwella'r olygfa.

"Mi roedd o'n weithiwr caled di-arbed, a dweud y gwir, yn boenus, wrth sgwennu.

"Ac wrth gwrs, ei gryfder mawr arall o oedd ei Gymraeg o - Cymraeg llafar Ynys Môn, ac roedd o'n sticlar y dylai'r iaith lafar fod ar ei gorau. Roedd deud sâl yn dân ar ei groen o bob amser," ychwanegodd Alun Ffred Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alun Ffred Jones ei bod hi'n "golled fawr" nad oedd Mei Jones yn ysgrifennu tua'r diwedd

"Pan ddaeth hi ar y teledu, slow-burner oedd hi, ddaru pobl ddim mopio arni yn syth.

"Ond fel roedd y blynyddoedd yn mynd ymlaen a'r gyfres yn dod yn fwy poblogaidd, a'r cymeriad ei hun wrth gwrs yn dod yn boblogaidd roedd pobl yn heidio ato fo pan oedd o di gwisgo - doedd ond angen iddo roi beret am ei ben a'r got 'na a deud y gwir, a'r sbectol, ac roedd o'n iawn!

"Dwi'n meddwl falle bod y cymeriad a'r gyfres - nid yn fwrn - ond yn dipyn o faen melin arno i sgwennu unrhyw beth arall."

Wrth gael ei holi ai cryfder Mei Jones oedd sgriptio neu actio dywedodd Alun Ffred Jones: "Mi roddodd y gorau i berfformio'n gymharol fuan yn ystod Midffîld - ar wahân i Midffîld ei hun, welson ni ddim ohono. Ond roedd o'n actor ardderchog ro'n i'n meddwl, ar lwyfan ac ar deledu.

"Mi ddaru o ysgrifennu pethau eraill hefyd - fo ysgrifennodd Deryn efo Meic Povey, ac mi ysgrifennodd o gyfres arall, Cerddwn Ymlaen, efo Meic Povey. Dwi'n meddwl mai yn y fan honno roedd ei gryfder o.

"Nes i drio ei annog o, a dwi'n gwybod fod pobl eraill wedi trio ei annog o hefyd i sgwennu rhywbeth arall neu sgwennu rhagor, ond yn y blynyddoedd diwetha' 'ma, ddaru o ddim 'lly - yn anffodus, a cholled fawr ydy hynny. Ond mi ddylen ni ddiolch am be gafon ni."

Ers ei farwolaeth mae nifer wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r sgriptiwr a'r actor a ddaeth â chymaint o hwyl i'w bywyd.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Siôn Aled

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Siôn Aled
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan theatrbaracaws@me.com

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan theatrbaracaws@me.com
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Hansh

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Hansh

Pynciau Cysylltiedig