Teyrngedau i ymgyrchydd gwrth-apartheid blaenllaw

  • Cyhoeddwyd
Hanef BhamjeeFfynhonnell y llun, Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Hanef Bhamjee yn ymgyrchydd gwrth-apartheid blaenllaw

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Hanef Bhamjee o Gaerdydd - ymgyrchydd gwrth-apartheid blaenllaw gydol ei oes.

Ganwyd Mr Bhamjee - oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hanif - yn Ne Affrica yng nghyfnod apartheid a dechreuodd ymgyrchu yn erbyn y dull hiliol o lywodraethu pan yn 10 oed.

Dihangodd o Dde Affrica i'r DU yn y 60au oherwydd ei ymwneud ag adain myfyrwyr yr ANC sef Cyngres Genedlaethol Affricanaidd.

Wrth roi teyrnged iddo, disgrifiodd yr Arglwydd Hain Mr Bhamjee fel arwr.

Ffynhonnell y llun, Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,
Hanef Bhamjee gyda Nelson Mandela

"Roedd e'n ddiflino wrth arwain a chynnal y mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru," meddai'r Arglwydd Hain wrth siarad ar BBC Radio Wales.

"Roedd wedi byw yng Nghaerdydd ers degawdau ar ôl gadael De Affrica mewn amgylchiadau anodd.

"Roedd yn arwr a arweiniodd fudiad gwrth-apartheid Cymru yn rymus ac urddasol."

Am ddegawdau bu Mr Bhamjee yn rhedeg Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru o'i gartref, gyda chymorth gwirfoddolwyr.

Ffynhonnell y llun, Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,
Y diweddar Archesgob Desmond Tutu a Hanef Bhamjee

"Yn yr 80au cafodd loches wleidyddol yn y DU am na allai fynd yn ôl i Dde Affrica," meddai Mick Antoniw AS, "ond bu''n wael am rai blynyddoedd ac yr oedd straen y blynyddoedd yn amlwg."

Roedd Mr Bhamjee yn ysgrifennydd Gweithredu De Affrica, sef Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru cyn hynny, ac roedd yn adnabod Nelson Mandela ers yn 15 oed.

Pan ymwelodd Mandela â Chymru, dywedodd Mr Bhamjee: "Mae gan Nelson Mandela le arbennig yng nghalonnau'r Cymry. Roedd yr ymgyrch gwrth-apartheid bob amser yn gryf iawn yma, yn gryfach o bosibl nag mewn unrhyw ran arall o Brydain."

Dyfarnwyd OBE i Mr Bhamjee i gydnabod ei frwydr gydol oes yn erbyn apartheid.