Cyn-bennaeth Ford, Richard Parry-Jones wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae un o ffigyrau mwyaf blaenllaw'r diwydiant cerbydau ym Mhrydain wedi marw mewn digwyddiad yn ymwneud â thractor yng Ngwynedd.
Roedd Yr Athro Richard Parry-Jones CBE, 69, yn gyn-gyfarwyddwr ac is-lywydd y Ford Motor Company.
Fe oruchwyliodd ddatblygiad cynnyrch y cwmni ar draws y byd ynghyd â dylunio, ymchwil a thechnoleg cerbydau.
Dan ei arweiniad fe gafodd y brand adfywiad yn y 1990au, gyda modelau fel y Mondeo, Fiesta a Focus.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar dir preifat yn ardal Y Bermo toc cyn 10:00 ddydd Gwener.
Nid yw'r llu wedi rhoi mwy o fanylion am y digwyddiad hyd yma.
'Talent prin'
Dywedodd cadeirydd y cwmni, Bill Ford mewn datganiad ar Twitter nos Wener: "Roedd Richard Parry-Jones yn dalent prin, a adawodd farc parhaol ar Ford a'r diwydiant.
"Fel peiriannydd, roedd yn feistrolgar gydag ymdeimlad annaearol am greu ceir oedd yn ddeinamig ac yn hwyl eithriadol i'w gyrru.
"Ysbrydolodd ei angerdd am geir a'i gariad at foduro lu o beirianwyr a selogion yn Ewrop ac ar draws y byd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd cyn cyd-yrrwr Cymru ym Mhencampwriaeth Ralïo'r Byd, Nicky Grist ar Twitter: "Sioc lwyr gyda'r newyddion trist bod Richard Parry-Jones wedi cael ei ladd y bore ma' mewn digwyddiad ar ei dractor.
"Cystadlodd Richard mewn ralïau ffordd a chymal, ond des i'w nabod pan roedd yn gyfarwyddwr y Ford Motor Company."
Roedd Mr Parry-Jones hefyd yn berchen ar westy sba Coes Faen gyda'i wraig, Sara, yn Y Bermo.
Yn 2019, cafodd Yr Athro Parry-Jones ei benodi i gadeirio tasglu i gefnogi gweithwyr Ford yn dilyn penderfyniad y cwmni i gau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020