Etholiad: Llafur yn fyr o fwyafrif wrth i UKIP ddathlu
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur yn brin o fwyafrif yn y Cynulliad wrth i UKIP gipio eu seddi cyntaf yn y Senedd.
Daeth sioc fawr yr noson wrth i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, guro Leighton Andrews o'r blaid Lafur i gipio'r Rhondda gyda mwyafrif o 3,459.
Ond mae Llafur yn parhau'r blaid fwyaf yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd ar ôl ennill 29 allan o'r 60 sedd.
Fe gipiodd Plaid Cymru 12 sedd, y Ceidwadwyr 11, UKIP saith, dolen allanol a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig un.
Sedd y Rhondda oedd yr unig etholaeth i newid dwylo, gyda Llafur yn dal eu gafael ar y 27 arall.
Mae'r cyn Aelodau Seneddol Ceidwadol, Neil Hamilton a Mark Reckless, ymysg y saith Aelod Cynulliad newydd i UKIP, gyda phob un yn cael eu hethol ar y rhestr ranbarthol.
Bu'n noson siomedig i'r Ceidwadwyr Cymreig gyda'r blaid yn methu ennill rhai o'r seddi ymylol a dargedwyd ganddynt.
Kirsty Williams yw'r unig aelod dros y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi iddi gael ei hail ethol yn gyffyrddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.
Seddi
Mae De Clwyd, Dwyrain Casnewydd, Alun a Glannau Dyfrdwy, Gwyr, Gogledd Caerdydd, Caerdydd Canolog a Llanelli ymhlith y seddi mae Llafur wedi eu cadw.
Mae Plaid Cymru wedi dal gafael yn Arfon, Dwyfor Meirionnydd, Ceredigion, Ynys Môn, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr gadw Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Maldwyn a Mynwy.
Aelodau newydd
Mae yna rhai Aelodau Cynulliad newydd sbon wedi eu hethol, gan gynnwys Hannah Blythyn, Dawn Bowden, Rhiannon Passmore, Jayne Bryant, Vikki Howells a Jeremy Miles i Lafur.
Yn ogystal, bydd Hefin David, Lee Waters a Huw Irranca-Davies yn ymuno ag aelodau newydd y blaid.
Mae Sian Gwenllian ac Adam Price wedi eu hethol am y tro cyntaf dros Blaid Cymru.
Mae'r nifer sydd wedi pleidleisio y tro yma yr uchaf ers 1999, sef 45.3%.
Roedd arolwg barn nos Iau ar gyfer ITV Cymru wedi awgrymu y byddai Llafur yn parhau'r blaid fwyaf yn y Cynulliad.
Roedd hwnnw yn dweud y byddai'r blaid yn ennill 27 sedd - tair yn llai nag yn 2011, Plaid Cymru yn ail gyda 12 o seddi, y Ceidwadwyr gyda 11, UKIP yn cipio wyth a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill dwy.
Mae Cymru hefyd yn dewis pedwar Comisiynydd Heddlu ond bydd y cyfri hynny yn digwydd ddydd Sul.