a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Nos da!

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw.

    Fe fyddan ni'n ôl am 08:00 yn y bore gyda mwy o'r newyddion diweddara' o bob cwr o Gymru.

    Diolch am eich cwmni a nos da.

  2. Noson gymylog

    Tywydd, BBC Cymru

    Mae disgwyl noson gymylog gyda glaw mân a niwl isel ar elltydd. Tymheredd isaf: 5C.

    Yfory, bydd hi'n gymylog yn y bore gyda glaw mân eto mewn mannau. Bydd y glaw yn cryfhau yn ystod y dydd. Tymheredd uchaf: 12C.

    Ewch i'r wefan dywydd am ragor o wybodaeth.

  3. Salwch anarferol Harry Davies

    Wales Online

    Mae chwaraewr rygbi ifanc o Gymru wedi disgrifio sut y cafodd salwch anarferol a olygodd ei fod wedi treulio deufis yn ei wely.

    Dywedodd asgellwr Caerfaddon, Harry Davies, ei fod yn braf bod yn ôl yn chwarae yn y gêm gyfartal yn erbyn Caerloyw dros y penwythnos.

    Symudodd Davies i Gaerfaddon o'r Gleision y tymor yma.

    Harry Davies
  4. Pa 'gastropubs' o Gymru sydd ar restr o 50 gorau'r DU?

    BBC Cymru Fyw

    Mae dwy dafarn o Gymru wedi eu henwi mewn rhestr o 50 gastropub gorau'r DU.

    Yn safle 30, mae The Hardwick yn Y Fenni, oedd yn yr wythfed safle yn rhestr 2016.

    Mae The Bunch of Grapes ym Mhontypridd hefyd ar y rhestr, yn safle rhif 44.

  5. Pencadlys S4C: 'Prifysgol yn medru sicrhau'r gost'

    Dyfodol y cynllun i symud pencadlys S4C i ddatblygiad Yr Egin, Caerfyrddin, sy'n cael sylw'r Pwyllgor Materion Cymreig nawr.

    Daeth yn amlwg ym mis Tachwedd bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy'n gyfrifol am y datblygiad, wedi gofyn am gyllid ychwanegol i adeiladu'r ganolfan newydd.

    View more on twitter
  6. Huw Jones: 'Ddim yn glir' os bydd toriadau pellach i S4C

    Nawr mae cadeirydd Awdurdod S4C yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig.

    View more on twitter
  7. 'Ni ellir parhau i dorri cyllideb S4C'

    Mae prif weithredwr S4C wedi dweud nad yw'n bosib parhau i dorri cyllideb y sianel i'r un raddfa â'r blynyddoedd diwethaf.

    Mae Ian Jones, fydd yn gadael y swydd tua diwedd y flwyddyn, ar hyn o bryd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig sy'n cwrdd yn San Steffan.

    View more on twitter
    View more on twitter
  8. Llanrhymni: Dyn mewn 'cyflwr difrifol'

    Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

    Mae hi wedi dod i'r amlwg bod y dyn gafodd ei anafu yn Llanrhymni yn gynharach heddiw wedi cael sioc drydan.

    Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans ei fod mewn "cyflwr difrifol" yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

    Roedd yn gweithio i Western Power Distribution ar safle ar Heol Clevedon pan gafodd ei anafu tua 12:00.

  9. Y Gymraeg ar lwyfan Miss Teen - dan faner Jamaica!

    Wales Online

    Bydd merch o Gaerdydd yn cynrychioli Jamaica ym mhasiant Miss Teen eleni - a bydd yn siarad Cymraeg yn ei pherfformiad!

    Yn ôl Wales Online, fe fydd Tyra Thomas, 13 oed, yn cystadlu dan faner cenedl teulu ei thad yn Huddersfield ar 25 Chwefror - ond bydd gan yr iaith le amlwg ar y llwyfan hefyd.

    Dywedodd ei mam wrth y wefan ei bod yn credu y bydd y dorf yn ymateb yn gadarnhaol.

    "Mae'n anarferol iddyn nhw weld Cymraes ddu sy'n cynrycholi Jamaica ac yn siarad Cymraeg", meddai.

  10. Caniadaeth y Cysegr yn dathlu 75 mlynedd

    BBC Cymru Wales

    Fis nesaf bydd BBC Cymru yn dathlu 75 mlynedd ers darlledu Caniadaeth y Cysegr am y tro cyntaf.

    Cafodd y rhaglen canu emynau ei darlledu am y tro cyntaf ar Chwefror 15, 1942, a hynny ar draws Prydain ar wasanaeth radio Home Service y BBC.

    Yn ôl gwybodaeth o'r Radio Times o'r cyfnod, Idris Lewis oedd y cyflwynydd, gyda Chantorion Llanelli yn canu dan arweiniad D.H. Lewis.

    Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru bod y rhaglen yn "un o berlau Radio Cymru ac yn dal i chwarae rhan bwysig yn hanes yr orsaf".

    "Mae'n braf gwybod bod y gyfres wedi cael cymaint o ddylanwad yng Nghymru a thu hwnt," meddai.

    Radio Times
  11. Trafodaethau 'positif' yn y Cyd-bwyllgor medd Cairns

    BBC Cymru Fyw

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi dweud bod llawer o drafodaethau positif rhwng y Prif Weinidog a'r llywodraethau datganoledig heddiw, yn enwedig "o amgylch masnachu cenedlaethol".

    Dywedodd nad oedd galwad Llywodraeth Cymru am fynediad llawn i'r farchnad sengl yn anghyson gyda gobaith Llywodraeth y DU o gytundeb masnach rydd.

    Ychwanegodd: "Rydyn ni'n benderfynol o fynd gyda phob rhan o'r DU wrth i ni drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd."

    Alun Cairns
  12. Brexit: 'Risg sylweddol' i amaeth a gweithgynhyrchu

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar oblygiadau Brexit.

    Yn ôl y ddogfen gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, mae gadael yr UE yn "risg sylweddol" i'r sectorau gweithgynhyrchu ac amaeth.

    Ymysg yr argymhellion sy'n rhan o'r adroddiad, mae'r syniad y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer effaith Brexit.